ymbarelau

Mae prosiect cyffrous wedi bod ar y gweill ers rhai misoedd yng Nghaernarfon. Mae’r ymbarelau amryliw bellach wedi eu gosod ar Stryd y Plas yng Nghaernarfon!

Mae dirywiad canol trefi yng Ngwynedd yn bryder i nifer o bobl, ond mae’r prosiect Strydoedd Unigryw gan Arloesi Gwynedd Wledig yn ceisio taclo’r her hwnnw gan ddefnyddio datrysiadau creadigol!

Mae tystiolaeth yn dangos fod siopa ar-lein, canolfannau siopa mawr ac archfarchnadoedd wedi cael effaith negyddol ar fasnach ganol trefi a hynny yn ei dro wedi cyfrannu tuag at ddirywiad ein Trefi.

Bwriad prosiect Strydoedd Unigryw yw ceisio helpu Trefi yng Ngwynedd addasu a chreu profiad unigryw fydd yn denu pobl yno.

Bu galwad agored nol ym mis Tachwedd i unrhyw gymuned yng Ngwynedd geisio i fod yn rhan o’r prosiect Strydoedd Unigryw yma. Y bwriad oedd i gymunedau feddwl am ffyrdd creadigol er mwyn denu pobl i ganol y dref ac i wario’n lleol.

Bu HWB Caernarfon yn llwyddiannus gyda’u cais nhw a bellach mae’r gosodiad celf i’w weld ar Stryd y Plas.

Dywedodd Gavin Owen ar ran HWB Caernarfon:

"Mae hi wedi bod yn dda cydweithio a chael cefnogaeth y busnesau lleol wrth ddatblygu’r cynllun yma. Mae yna ymbarelau amryliw tebyg wedi eu gosod yn yr Ŵyl Gelf AgitAgueda ym Mhortiwgal ers rhai blynyddoedd. Mae’r gosodiad celf yna wedi denu miloedd i’r dref ar ôl i luniau o’r ymbarelau gael eu rhannu drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Da ni’n ffyddiog y bydd hyn yn digwydd yma yng Nghaernarfon hefyd gan roi budd i fusnesau yng nghanol y Dref".

Dywedodd Carwyn ap Myrddin ar ran Arloesi Gwynedd Wledig:

"Mae yna gryn edrych ymlaen wedi bod i weld yr ymbarelau yn cael eu gosod ac mae’n dda i’w gweld nhw yno erbyn hyn. Mi fydd hi’n ddiddorol gweld yr effaith o ran nifer y bobl fydd yn ymweld â’r stryd a chanol Caernarfon. Drwy ddefnyddio technoleg HWB Caernarfon sy’n gallu monitro nifer y bobl ar bob stryd mi fydd hi’n bosib cael darlun clir erbyn diwedd yr haf o’r niferoedd i gymharu â’r blynyddoedd blaenorol.

Cynllun peilot ydi hwn a’r hyn sy’n dda ydi y bydd hi’n bosib ail ddefnyddio’r ceblau sydd wedi cael eu gosod uwchben y stryd ar gyfer gosodiadau celf gwahanol yn y dyfodol. Mi fyddai’n bosib cael thema gwahanol i’r gosodiadau celf o fis i fis neu os oes yna ddigwyddiad ymlaen yng Nghaernarfon."

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.