Lambs grazing the green, green grass

Bydd porfeydd gwelltog byd-enwog Cymru yn cael sylw mewn profion newydd i ganfod pa fwyd i’r oen all wneud blas Cig Oen Cymru PGI yn ddiguro.

Yn y flwyddyn newydd, bydd cannoedd o bobl sy’n byw mewn dinasoedd yn y DU yn blasu Cig Oen Cymru PGI o ŵyn a fagwyd ar 16 o ffermydd yng Nghymru er mwyn canfod sut mae gwahanol fwydydd – fel porfa, maip a bresych – yn dylanwadu ar flas y cig. 

Mae’r cyfan yn rhan o brosiect Ansawdd Cig Oen Cymru sy’n ystyried yr hyn sy’n gyfrifol am y gwahaniaeth yn yr ansawdd. Mae’r prosiect ei hun yn rhan o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch gan Hybu Cig Cymru (HCC) sydd, dros gyfnod o bum mlynedd, yn ceisio helpu ffermwyr Cymru i baratoi ar gyfer y gystadleuaeth gynyddol yn y farchnad fyd-eang. 

Mae bron i 500 o bobl eisoes wedi cymryd rhan mewn profion blasu yn ystod blwyddyn gyntaf y prosiect. Bwriad HCC yw cael 500 arall i gymryd rhan yn ystod gwanwyn 2021 mewn ail gyfres o brofion blasu mewn tair dinas yn y DU. 

Erbyn cwblhau’r prosiect, bydd mwy na 2,000 o ddefnyddwyr yn gallu rhoi  gwybodaeth gywir i gadwyn gyflenwi Cig Oen Cymru PGI am y math o gig sy’n blasu orau. Fel canlyniad, bydd modd cynhyrchu’r union gig – o ran blas a gwead - y mae pobl yn dymuno ei gael.  

Dr Eleri Thomas, Swyddog Gweithredol Ansawdd Cig HCC

“Y flwyddyn nesaf yn enwedig, byddwn yn ymchwilio i ddylanwad yr hyn mae’r oen yn ei fwyta ar ansawdd maethol y cig, ynghyd â’i flas a’r boddhad yn gyffredinol wrth ei fwyta,” meddai Dr Eleri Thomas, Swyddog Gweithredol Ansawdd Cig HCC.

“Byddwn yn gofyn i wirfoddolwyr, flasu samplau o gig oen o bob rhan o Gymru a gafodd eu coginio'n union yr un fath i ddarganfod pa arferion ar y ffermydd ac unedau prosesu sy'n helpu i greu blas gwych Cig Oen Cymru,” meddai.

“Bydd cig o ŵyn a gafodd eu pesgi ar amrediad eang o fwydydd yn cael eu hasesu. Yn ogystal, bydd mesuriadau’n cael eu cymryd i ganfod sut mae deiet yr ŵyn yn dylanwadu ar ba mor flasus ac iach yw’r cig”.   

“Bydd y dadansoddiad o’r canlyniadau cyntaf yn cael eu datgelu yn ystod rhith-ddarllediad ar y cyfryngau cymdeithasol ar ddydd Llun, 28 Medi eleni. Yn ystod diwrnod cyfan o ddarlledu, bydd arbenigwyr yn dangos sut i dorri a choginio Cig Oen Cymru, a daw’r cyfan i ben â gweminar am 19:30 pan ddatgelir dadansoddiad o’r profion blasu cyntaf,” meddai Dr. Thomas.

Cefnogir Prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.