Oes gennych chi syniad a arweinir gan y gymuned a allai wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl sy'n byw ac yn gweithio yng Ngheredigion? Mae Grŵp Gweithredu Lleol (GGLl) Cynnal y Cardi yn gofyn i yn gofyn i drigolion anfon eu syniadau neu fynegiant o ddiddordeb ar gyfer prosiect i mewn erbyn Dydd Llun, 24 Mehefin.

Dros y flynyddoedd diwethaf, mae Grŵp Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi, wedi cefnogi 43 o syniadau a arweinir gan y gymuned wledig am cyfanswm o £1.2m.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans yr aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros yr adran Economi ac Adfywio,

“Rwy'n falch iawn o glywed am y cynnydd a wnaed gan y prosiectau a gymeradwywyd gan y GGLl dros y blynyddoedd diwethaf. Dechreuodd pob prosiect fel syniad - awydd unigolyn neu grŵp i wella a datblygu economi eu cymuned wledig leol. Mae'r canlyniadau'n profi y gellir cyflawni llawer trwy weledigaeth cyfrannol ac ymrwymiad ar y cyd.”

Mae GGLI Cynnal y Cardi, a weinyddir gan Gyngor Sir Ceredigion, wedi helpu syniadau i ddod yn realiti trwy ddatblygu prosiectau, gwerthuso, astudiaethau dichonoldeb, hyrwyddiad, hyfforddi, mentora, ymgynghori a phrosiectau peilot. Mae pob un o'r prosiectau a gefnogir yn dod o dan bum maes gweithgarwch o fewn y gynllun LEADER; gwella adnoddau naturiol a diwylliannol Ceredigion; treialu cynnyrch/prosesau a chreu partneriaethau a rhwydweithiau busnes newydd; archwilio ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau, cyfleusterau a gweithgareddau; archwilio cyfleoedd ynni adnewyddadwy a manteisio i'r eithaf ar dechnoleg ddigidol mewn cymunedau lleol.

Cynorthwyir LEADER, sy'n ceisio cefnogi ymatebion arloesol i gyfleoedd neu sialensiau y mae cymunedau gwledig yn eu hwynebu, trwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariannir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

I drafod eich syniadau ac am wybodaeth ynghylch bod yn gymwys am gefnogaeth ffoniwch dîm Cynnal y Cardi ar 01545 572063 neu ewch i www.cynnalycardi.org.uk. Y dyddiadau cau yn 2018 ar gyfer cyflwyno syniadau/datganiadau o ddiddordeb ydy: 24 Mehefin, 9 Medi a 11 Tachwedd.