Datganiad Ysgrifenedig gan Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: 

Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau o’r Senedd am nifer y taliadau BPS a wnaed yn ystod wythnos gyntaf cyfnod talu  2020.

Bydd dros 94.6% o fusnesau fferm yng Nghymru wedi derbyn naill ai eu taliad BPS llawn neu daliad Cymorth BPS, gyda dros £219.3 miliwn yn cael ei dalu i fwy na 14,900 o hawlwyr.

Ers dechrau pandemig Covid-19, fy mlaenoriaeth fu cefnogi busnesau yn ystod y flwyddyn anodd hon.

Mewn ymateb uniongyrchol i'r pandemig, manteisiais ar y cyfle i ohirio’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflen y Cais Sengl (SAF) tan 15 Mehefin, gan roi mis ychwanegol i fusnesau fferm gyflwyno eu cais – o ystyried ein gallu cyfyngedig i gynnig y cymorth digidol arferol.  Hefyd cyflwynais Gynllun Cymorth y BPS eto i roi rhywfaint o sicrwydd ac i helpu busnesau fferm i reoli eu llif arian tra bo'u hawliadau BPS yn cael eu prosesu.

Er gwaethaf y dyddiad cau estynedig hwn ar gyfer yr SAF, y ffaith bod swyddogion wedi bod yn gweithio gartref am y rhan fwyaf o'r flwyddyn – yn ogystal â gorfod parhau i baratoi ar gyfer diwedd cofnod pontio ymadael â’r UE gyda’r ymgynghoriad ar symleiddio’r BPS, mae’n dda iawn gennyf weld bod nifer yr hawliadau BPS mae Taliadau Gwledig Cymru (RPW) wedi eu talu wedi bod yn syndod o uchel. O dan yr amgylchiadau heriol hyn mae nifer y taliadau a wnaed yn ystod wythnos gyntaf y cyfnod talu wedi rhagori ar y nifer a wnaed y llynedd.

Hoffwn ddiolch i bawb, gan gynnwys rhanddeiliaid yn y diwydiant, sydd wedi gweithio yn ystod y flwyddyn hynod anodd hon i gefnogi busnesau fferm yn eu gwahanol ffyrdd, ac i’n helpu ni i barhau i wneud nifer gwych o daliadau BPS i fusnesau fferm yng Nghymru mor gynnar yn y cyfnod talu.

Mae fy swyddogion yn parhau i weithio'n galed i brosesu hawliadau’r BPS ar gyfer 2020 sy'n weddill cyn gynted â phosibl. Rwy’n disgwyl i bob achos ond yr achosion mwyaf cymhleth gael eu cwblhau erbyn 30 Mehefin 2021.