Push to talk

Mae Arloesi Gwynedd Wledig (AGW) ac Arloesi Môn yn treialu technoleg newydd arloesol i fynd i'r afael ag unigrwydd. Ffordd syml o gysylltu’n ddiogel â phobl eraill i gael sgwrs yw Pwyso i Siarad.

Yn gweithio gyda Age Cymru ac Adra, mae’n bosib cael mynediad unai gyda ap, naill ai ar ffôn symudol, neu ddyfais y gellir ei osod yn hawdd yn y cartref. Mae Pwyso i Siarad yn galluogi pobl o fewn cymuned i wneud cysylltiadau newydd drwy ddim ond pwyso botwm. Mae’r gwasanaeth yn cysylltu pobl sydd yn y rhwydwaith ar hap i gychwyn sgwrs gyda rhywun newydd. Mae’n gyfle i bobl heb lawer o gysylltiad gyda phobl eraill wneud ffrindiau newydd o ddiogelwch eu cartrefi eu hunain. Mae’n gyfle i’r rhai sy’n teimlo bod pethau’n ormod i siarad, gwrando a gwneud amser iddyn nhw eu hunain.

Yn ôl yr Ymgyrch i Derfynu Unigrwydd, mae dros 9 miliwn o bobl yn y DU yn dweud eu bod yn unig drwy’r amser neu’n aml. Mae hynny’n bumed rhan o’n poblogaeth, ac mae'r sefyllfa bresennol oherwydd Covid hefyd wedi gwneud pethau yn hyd yn oed anoddach. Dim ots os yw rhywun mewn oed, yn anabl, mewn gofal, yn ofalwr eu hunain neu dim ond yn teimlo’n isel, mae sgwrs yn gallu goleuo eu diwrnod.

Mae Elin Parry, Swyddog Prosiect AGW yn esbonio ymhellach “Mae unigrwydd yn fater mawr ond mae'r cyfyngiadau oherwydd Covid wedi gwaethygu'r broblem. Gall fod yn anodd dros ben i bobl adael y tŷ neu weld eu teulu. Gall cynnal cyswllt hir dymor fod yn anodd iawn os ydyn nhw wedi colli cysylltiad â'r bobl maen nhw'n eu gweld fel arfer.”

AGW ac Arloesi Môn yw rhaglenni LEADER Menter Môn. Maent yn chwilio am atebion arloesol i’r heriau sy’n wynebu economiau Gwynedd a Môn trwy dreialu mentrau newydd. Mae Menter Môn yn fenter gymunedol sy’n gweithredu ar draws gogledd Cymru i gyflawni amrywiol brosiectau adfywio, amgylcheddol a diwylliannol er budd cymunedau lleol. 

PushtoTalk

Rhwydwaith o bobl debyg i’w gilydd, mewn sefyllfaoedd tebyg ac yn arwain bywydau tebyg yw Pwyso i Siarad. Drwy ddod yn aelod o gymuned Pwyso i Siarad byddwch yn gallu gwneud ffrindiau newydd a chael cysylltiadau ystyrlon pob dydd. Drwy gymryd rhan byddwch yn gwella’ch lles eich hunan ac yn helpu rhywun arall mewn sefyllfa debyg. 

Dywedodd Sioned Young, Swyddog Cyswllt a Chefnogaeth Hwb Cymunedol yn Age Cymru Gwynedd a Môn “Un o’r rhesymau yr apeliodd y prosiect hwn atom yw pa mor hawdd fydd hi i bobl gysylltu â phobl newydd o’u cartrefi. Mae hefyd yn gysur gwybod y byddan nhw'n cysylltu â phobl leol o Wynedd a Môn. Efallai y byddan nhw'n dod o hyd i rywun sydd â'r un diddordebau â nhw, ond na fyddent erioed wedi cwrdd fel arall.”

Bydd y gwasanaeth yn lansio dechrau Rhagfyr ac yn cael ei dreialu am 6 mis i ddechrau. Yn ystod yr amser yma mae AGW ac Arloesi Môn yn gobeithio dysgu pa mor hawdd ydi’r dechnoleg I ddefnyddio a faint o effaith mae’n gael a rei ddefnyddwyr. Os yw’n llwyddiannus maent yn gobeithio gallu cynnig y gwasanaeth i mwy o bobl. 

Mae AGW ac Arloesi Môn yn chwilio am 20 o bobl ar Ynys Môn ac 20 o bobl yng Ngwynedd i gymryd rhan yn y prosiect. Os ydych chi neu rhywyn rydych yn ei adnabod yn byw ar ben ei hunain ac yn gallu elwa o'r dechnoleg yma cysylltwch gyda Meilir drwy meilir@mentermon.com neu Elin drwy elin@mentermon.com neu ffoniwch 01766 514057 a gadewch neges. 

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA), Cyngor Gwynedd ac Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.