ffôn symudol gydag ap gwthio i siarad ar y sgrin

Mae Arloesi Gwynedd Wledig (AGW) ac Arloesi Môn yn treialu technoleg newydd arloesol i fynd i'r afael ag unigrwydd, yn enwedi yn ystod y clo mawr. Ffordd syml o gysylltu’n ddiogel â phobl eraill i gael sgwrs yw Pwyso i Siarad.

Mae’n bosib defnyddio’r gwasanaeth gyda ap ar ffôn symudol, ac mae’n galluogi pobl o fewn cymuned i wneud cysylltiadau newydd drwy ddim ond pwyso botwm. Mae’r gwasanaeth yn cysylltu pobl sydd yn y rhwydwaith ar hap i gychwyn sgwrs gyda rhywun newydd. Mae’n gyfle i bobl heb lawer o gysylltiad gyda phobl eraill wneud ffrindiau newydd o ddiogelwch eu cartrefi eu hunain. 

Mae’r dechnoleg yn rhad ac am ddim I driogolion Gwynedd a Môn. 

Yn ôl yr Ymgyrch i Derfynu Unigrwydd, mae dros 9 miliwn o bobl yn y DU yn dweud eu bod yn unig drwy’r amser neu’n aml. Mae hynny’n bumed rhan o’n poblogaeth, ac mae'r sefyllfa bresennol oherwydd Covid hefyd wedi gwneud pethau yn hyd yn oed anoddach, ond mae sgwrs yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr I’r diwrnod. 

Mae Elin Parry, Swyddog Prosiect AGW yn esbonio ymhellach:

“Mae unigrwydd yn fater mawr ond mae'r cyfyngiadau oherwydd Covid wedi gwaethygu'r broblem. Gall fod yn anodd dros ben i bobl adael y tŷ neu weld eu teulu. Gall cynnal cyswllt hir dymor fod yn anodd iawn os ydyn nhw wedi colli cysylltiad â'r bobl maen nhw'n eu gweld fel arfer.”

AGW ac Arloesi Môn yw rhaglenni LEADER Menter Môn. Maent yn chwilio am atebion arloesol i’r heriau sy’n wynebu economiau Gwynedd a Môn trwy dreialu mentrau newydd. Mae Menter Môn yn fenter gymunedol sy’n gweithredu ar draws gogledd Cymru i gyflawni amrywiol brosiectau adfywio, amgylcheddol a diwylliannol er budd cymunedau lleol. 

Rhwydwaith o bobl debyg i’w gilydd, mewn sefyllfaoedd tebyg ac yn arwain bywydau tebyg yw Pwyso i Siarad. Drwy ddod yn aelod o gymuned Pwyso i Siarad byddwch yn gallu gwneud ffrindiau newydd a chael cysylltiadau ystyrlon pob dydd. Drwy gymryd rhan byddwch yn gwella’ch lles eich hunan ac yn helpu rhywun arall mewn sefyllfa debyg. 

Bydd y gwasanaeth yn lansio dechrau 2021 ac yn cael ei dreialu am 6 mis i ddechrau. Yn ystod yr amser yma mae AGW ac Arloesi Môn yn gobeithio dysgu pa mor hawdd ydi’r dechnoleg I ddefnyddio a faint o effaith mae’n gael a rei ddefnyddwyr. Os yw’n llwyddiannus maent yn gobeithio gallu cynnig y gwasanaeth i mwy o bobl. 

Mae’n bosib defnyddio’r gwasanaeth heb ffôn symudol, ond mae’n ddibynol ar eich lleoliad. Cysylltwch am fwy o wybodaeth. 

Mae AGW ac Arloesi Môn yn chwilio am 20 o bobl ar Ynys Môn ac 20 o bobl yng Ngwynedd i gymryd rhan yn y prosiect. Os ydych chi neu rhywyn rydych yn ei adnabod yn byw ar ben ei hunain ac yn gallu elwa o'r dechnoleg yma cysylltwch gyda Meilir drwy meilir@mentermon.com neu Elin drwy elin@mentermon.com neu ffoniwch 01766 514057 a gadewch neges. 

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA), Cyngor Gwynedd ac Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.