Tafarn y Rhos

Mae COVID-19 yn gosod heriau mawr i fusnesau yng Ngwynedd ac Ynys Môn. Mae Arloesi Gwynedd Wledig (AGW) ac Arloesi Môn yn treialu technoleg newydd o'r enw StoreTally mewn sawl busnes ar draws y ddwy sir i geisio dod o hyd i atebion posibl.

Dyfais Rheoli Dwysedd Ymwelwyr ydi StoreTally sydd wedi'i gynllunio i roi hyder i gwsmeriaid bod eu iechyd a diogelwch yn cael ei gymeryd o ddifri yn ystod amseroedd COVID-19. Wedi ei greu gan gwmni lleol wedi'i leoli yn M-Sparc ger Gaerwen, mae'r dechnoleg yn cyfri faint o bobl sy'n mynd i mewn ac allan o adeiladau. Ar ôl cyrraedd capasiti, mae'n hysbysu cwsmeriaid i beidio â mynd i mewn nes bod eraill wedi gadael. Mae'n bosib addasu’r dyfais ar gyfer nifer capasiti gwahanol, sy'n golygu y gellir ei ddefnyddio mewn adeiladau bach neu mawr. 

Yn ystod y peilot hwn mae AGW ac Arloesi Môn wedi gosod y dechnoleg mewn sawl busnes gwahanol. Ar Ynys Môn maent wedi'i osod yn:

  • Halen Môn
  • Siop Ellis Llangefni
  • Tafarn Y Rhos
  • Holland Arms Garden Centre 
  • Foel Farm

Ac yng Ngwynedd maent wedi’i osod yn:

  • Fron Goch Garden Centre
  • Spar Nefyn 
  • Spar Pwllheli
  • Emrys House Beddgelert
  • Siop Hosbis Dewi Sant Pwllheli
StoreTally Emrys House Beddgelert
StoreTally Emrys House Beddgelert

 

Mae AGW ac Arloesi Môn yn gobeithio y bydd hyn yn helpu i leddfu ychydig o'r pwysau sydd ar fusnesau, ac yn rhoi sicrwydd ychwanegol i gwsmeriaid. Gan mai peilot yw hwn, byddant yn dysgu pa mor effeithiol yw'r dechnoleg, ac yn rhannu'r wybodaeth hon â busnesau eraill ar draws y ddwy sir.

Esboniodd Rhian Hughes, Swyddog Prosiect AGW “Mae AGW ac Arloesi Môn yn gweithio’n galed i helpu i leihau’r effaith y mae COVID-19 yn ei gael ar ein heconomi a’n cymunedau. Ein gobaith ar gyfer y peilot hwn yw rhannu'r hyn rydyn ni wedi'i ddysgu gyda busnesau eraill ledled Gwynedd ac Ynys Môn fel y gallant hefyd fanteisio ar y dechnoleg hon a grëwyd yn lleol. ”

Mae'r dechnoleg, sy’n gwbl ddwyieithog wedi bod ar waith am y 4 wythnos ddiwethaf, ac mae perchnogion busnes sy'n cymryd rhan yn y peilot eisoes yn gweld ei fudd.

Dywed Rhys McLachlan-Evans, Rheolwr Canolfan Arddio Holland Arms “Cyn y dechnoleg roedd aelod o staff wrth y drws yn barhaol gan gyfrif faint oedd yn dod i mewn i'r ganolfan. Ond nawr gyda'r dechnoleg rydw i'n gallu gweld o fy nesg faint o bobl sydd yma, faint sydd ym mhob adran a chadw pawb yn ddiogel. ”

Yn ogystal â helpu'r busnesau, y gobaith yw y bydd y dechnoleg hefyd yn helpu  cwsmeriaid deimlo'n fwy diogel ac yn fwy cyfforddus. 

Eglura Alison Lea-Wilson, Cyd-sylfaenydd Halen Môn “Fel busnes rydym yn bendant yn teimlo’n fwy diogel ers i’r StoreTally gael ei osod.”

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA), Cyngor Gwynedd ac Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.