Dairy Cows

Mae technoleg fonitro soffistigedig yn helpu fferm laeth yng Nghymru i ganfod arwyddion cynnar o gloffni yn y fuches laeth.

Roedd y teulu Evans wedi bod yn neilltuo un cyfnod godro bob mis i arsylwi gwartheg a sgorio eu symudedd wrth iddynt gerdded allan o’r parlwr ar fferm Erw Fawr, safle arddangos Cyswllt Ffermio ger Caergybi.

Ond roedd y ffermwr, Ceredig Evans, yn cydnabod ei fod yn dasg a fyddai’n aml yn cael ei oedi.

“Roedd yn dipyn o waith, a doedden ni byth yn gallu ei wneud ar amser, ond roeddem ni’n teimlo bod budd iddo,” meddai Mr Evans, sy’n ffermio gyda’i wraig, Sian, a’i rieni, Ifan ac Ann.

Trwy eu gwaith gyda Cyswllt Ffermio, mae’r teulu bellach yn treialu system ddigidol newydd sy’n defnyddio algorithm i ddadansoddi fframiau fideo o’r gwartheg yn cerdded ac yn echdynnu gwybodaeth o’r rhain.

Mae rhaglen CattleEye yn canfod arwyddion cynnar o gloffni, gan roi’r cyfle i ffermwyr roi triniaeth cyn i’r achos ddatblygu i fod yn achos cronig.

Dywed Roger Allen o gwmni CattleEye fod canfod a thrin yn gynnar yn lleihau’r defnydd o wrthfiotigau yn y pen draw ac yn cynyddu effeithlonrwydd cyffredinol ar ffermydd llaeth.

Mae hefyd yn darparu tystiolaeth i gwsmeriaid a manwerthwyr fod ffermwyr yn gweithio ar y lefel uchaf o ran rheoli’r stoc, meddai.

Mae cofnod o wartheg cloff Mr Evans yn cael ei gadw ar ap ar ei ffôn am 12 mis.

“Mae’n gofnod defnyddiol i’w gadw ar gyfer fy nghytundeb llaeth gydag Arla a sicrwydd fferm, ac yn dystiolaeth ein bod ni’n ei fonitro,” meddai Mr Evans.

Mae’r system yn syml.

Cyn gosod y camera, anfonodd Mr Evans fideo a dynnwyd ar ei ffôn o ardal y fferm, y parlwr a’r ffordd allan er mwyn dod o hyd i'r lle cywir i osod y camera TCC sylfaenol.

Yna, tywysodd y gwartheg i gerdded heibio’r camera, ac fe wnaeth tîm CattleEye ddysgu’r camera i adnabod y gwartheg.

Mae’r camera yn sganio’r gwartheg wrth iddyn nhw gerdded oddi tano ac mae’r feddalwedd yn rhedeg algorithm i ganfod pwyntiau allweddol ar y fuwch ac yn darparu sgôr symudedd, gan adeiladu proffil o gerddediad y fuwch.

Unwaith y bydd y system yn sylwi ar newid yn symudedd anifail penodol, bydd yn hysbysu Mr Evans a gellir asesu traed yr anifail.

"Gallai hynny fod rhai dyddiau, neu wythnosau o bosibl, cyn canfod achos o gloffni gyda’r llygad", meddai Mr Allen.

Nid oes angen tag, pedometer na choler i gysylltu’r fuwch gyda’r system. 

Dywed Mr Evans fod CattleEye wedi tynnu’r pwysau oddi arno o ran sgorio symudedd ei fuches o wartheg Holstein.

“Os bydd un o’r gwartheg yn gloff, neu os ydw i’n amau bod un ohonynt yn gloff, gallaf gadw llygad arni.’’

Mae graff misol yn galluogi Mr Evans i fonitro canlyniadau ymyriadau trimio traed, ac mae’n gallu rhoi rhestr weithredu i’r person sy’n trimio traed yn nodi’r gwartheg sydd angen sylw.

Mae’r Athro George Oikonomou, o Brifysgol Lerpwl, yn monitro canfyddiadau’r prosiect ar fferm Erw Fawr ar ran Cyswllt Ffermio, a bydd y rhain yn cael eu rhannu’n ddiweddarach yn y flwyddyn.

Mae lleihau cloffni yn y fuches yn dda ar gyfer proffidioldeb y fferm gan fod gwartheg yn parhau i fod yn gynhyrchiol am gyfnod hirach, ond mae hefyd yn gallu lleihau lefel yr allyriadau nwyon tŷ gwydr fesul litr o laeth a gynhyrchir.

“Rydym ni wedi cyfrifo ein bod ni’n gallu gwaredu hanner tunnell o garbon fesul anifail allan o ôl troed carbon buwch trwy helpu’r fferm i wneud gwell penderfyniadau er mwyn gwneud y fuwch yn fwy effeithlon,” meddai Mr Allen.

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ac fe’i ariennir drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.