Mae haneru’r gyfradd gwrtaith nitrogen (N) a ddefnyddir ar laswellt yn ystod yr haf wedi arwain at ostyngiad cynnyrch o 5% yn unig mewn treial ar fferm laeth yn Sir Benfro. 

Mae Mountjoy, safle arddangos Cyswllt Ffermio ger Hwlffordd, eisoes yn defnyddio llai o N na’r terfyn uchaf RB209 a argymhellir ond yn dymuno lleihau’r mewnbwn ymhellach os yn bosibl, er mwyn arbed costau a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd. 

Y nod yw lleihau cyfartaledd y fferm gyfan i 160kgN/ha o lefelau’r gorffennol oedd o gwmpas 230kgN/ha yn flynyddol.

Yn achos glaswellt sy’n cael ei reoli’n dda, mae pob cilogram o N sy’n cael ei ddefnyddio fel arfer yn cynhyrchu tua 30kg/DM/ha o borfa, sy’n cyfateb i 30:1; ond mae effeithiolrwydd N fel arfer yn lleihau wrth i gyfraddau uwch ohono gael ei ddefnyddio – gall cyfradd yr ymateb tyfiant glaswellt fod mor uchel â 50:1 er y gall hwnnw gael ei haneru o ddefnyddio’r 100kg nesaf. 

Cyflwynwyd canlyniadau’r treialon i ffermwyr yn ystod diwrnod agored Cyswllt Ffermio diweddar ym Mountjoy.

Yn achos un o’r treialon, a gynhaliwyd rhwng Gorffennaf a Medi 2020, defnyddiwyd N ar raddfa lawn o 18kg ar gyfer pedwar cylch pori olynol; 5,000kgDM/hectar (ha) oedd y cynnyrch glaswellt; 4,440kgDM/ha oedd y cynnyrch o haneru’r raddfa i 9kg, ac ar dir lle na ddefnyddiwyd N yn ystod y tri mis hynny, 4,020kgDM/ha oedd y tyfiant glaswellt. 

Dangosodd y defnydd yma yn ystod yr haf gyfradd ymateb o 13:1 yn unig o ddefnyddio N gan fod deunydd organig y pridd a sefydlogiad meillion yn cynhyrchu’r rhan fwyaf o’r N angenrheidiol i’r glastiroedd. 

Yn 2021, cyflwynwyd triniaeth sero N ar ddechrau’r flwyddyn ar un rhan o gae treialu, a 94kgN/ha o dair triniaeth ar weddill y cae. 

Erbyn diwedd Gorffennaf, roedd y cynnyrch porfa yn 5,850kgDM/ha mewn cymhariaeth ag ond 3,810kgDM/ha lle na ddefnyddiwyd gwrtaith, gan roi cyfradd ymateb o 22:1 o ddefnyddio N. 

Roedd gwiriad ddechrau’r tymor o ddefnyddio dim N lawer yn uwch nag yn yr haf – yn enwedig yn ystod y gwanwyn oer a gafwyd eleni.

Serch hynny, yn achos peidio â defnyddio N, roedd trwch y meillion gwyn yn y glastiroedd wedi cynyddu i 23% mewn cymhariaeth â 13%, felly mae’n bosib fod potensial i weld mwy o sefydlogiad N o feillion a hwb i dyfiant glaswellt tua diwedd y tymor, yn ôl Chris Duller, arbenigwr ar laswellt sy’n goruchwylio’r treial. 

Awgrymodd fod cyfleoedd i bob fferm leihau eu defnydd N, ond roedd y treialon hefyd wedi dangos eu gwerth. 

“Mae angen i ni feddwl am enillion ar fuddsoddiad, ac mae gwrtaith N yn ddeunydd defnyddiol o’i ddefnyddio’n iawn,” eglurodd. 

“Dylai’r rhan fwyaf o ffermwyr allu lleihau eu dibyniaeth ar wrtaith N ond mae’n rhaid i’r pridd fod yn iach, gyda’r pH cywir. 

“Mae angen sicrhau cydbwysedd ac mae pob cae yn wahanol.” 

Dengys y treialon, pe na bai N yn cael ei ddefnyddio o gwbl, byddai Mountjoy yn tyfu tua 7tDM y flwyddyn ar hyn o bryd, ar sail meillion a mwyneiddiad pridd N; mae hyn gryn dipyn yn llai na’r hyn sydd angen ar y fuches. 

Drwy ddefnyddio cyfanswm fferm gyfan N o 160kg/ha/y flwyddyn, gall y fferm dyfu 4tDM/ha yn fwy, gan sicrhau cyfanswm cynnyrch blynyddol o 11tDM/ha.

“Doedd y 70kgN/ha a arbedwyd ddim hyd yn oed yn tyfu cymaint â thunnell ychwanegol o ddeunydd sych,” meddai Mr Duller.

“Mae angen i ffermwyr ochel rhag mynd ar drywydd y cynnydd gostyngol yma mewn cynnyrch.”  

Eglurodd Mr Duller fod iechyd y pridd, statws P (ffosffad) a K (potash), cynnwys meillion a rheolaeth slyri oll yn chwarae rôl o safbwynt caniatáu i ffermwyr dyfu’r un faint o laswellt gyda llai o fewnbynnau gwrtaith N. 

“Mae treialon ar raddfa fechan fel yr un ym Mountjoy yn fodd i ffermwyr fagu hyder i gamu’n ôl o ddefnyddio cyfraddau uchel o wrtaith N,” meddai.  

“Os allwn ni wella pridd a meillion ymhellach, gall y defnydd o wrtaith N ddisgyn hefyd.” 

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.