TYFI project-Seiont Nurseries

Meddyliwch yn ôl i fis Ebrill/Mai 2019, pan oedd llawer ohonom yn heidio i ganolfannau garddio lleol i brynu eitemau ar gyfer yr ardd – y gwanwyn yw’r cyfnod prysuraf i ganolfannau garddio. Erbyn heddiw, gyda'r cyfyngiadau symud yn dal ar waith am y tro, mae llawer o ganolfannau garddio yn dal ar gau.

Daeth y cyfyngiadau ar fasnachu cynnyrch dianghenraid i rym ar yr adeg waethaf bosib i arddwriaeth addurnol, gan gyd-daro â’r cyfnod pan fo'r busnesau hyn fel arfer yn disgwyl gwneud y rhan fwyaf o werthiannau’r flwyddyn.  

Ac nid dim ond y ffaith bod canolfannau garddio wedi cau sy’n effeithio ar y diwydiant. Gan na fydd priodasau na digwyddiadau cymdeithasol yn cael eu cynnal yn y dyfodol agos, mae tyfwyr blodau i'w torri – ac eraill sy’n dibynnu ar y fasnach flodau – hyd yn oed yn fwy tebygol o fod wedi colli gwerthiannau. 

Dywedodd un tyfwr, ‘Dydyn ni heb werthu unrhyw beth o gwbl; dydy gwerthwyr blodau ddim eisiau rhosod i'w torri, oherwydd dydy pobl ddim yn gallu cynnal priodasau na digwyddiadau.

Felly, beth mae hyn yn ei olygu i fusnesau yng Nghymru sy’n tyfu planhigion a blodau? Yn ôl Sarah Gould o Tyfu Cymru, sy’n cefnogi tyfwyr masnachol yng Nghymru, mae colli incwm a phroblemau llif arian yn achosi heriau sylweddol i’r busnesau hyn.

Roedd arolwg diweddar wedi gofyn i dyfwyr a ydynt yn cynnal lefelau gwerthiant arferol ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn: dywedodd 80% nad ydynt.

Mewn diwydiant sy’n cyfrannu £1.4 biliwn at economi’r DU bob blwyddyn, ac yn cyflogi dros 15,000 o bobl yn uniongyrchol a bron i 30,000 yn anuniongyrchol1, mae methu gwerthu yn peryglu hyfywedd hirdymor y busnesau hyn.

Yn ôl yr arolwg o dyfwyr planhigion addurnol yng Nghymru – a gynhaliwyd gan Tyfu Cymru a Phrifysgol Caerdydd2 – mae lefel yr effaith ar fusnesau yn dibynnu’n fawr ar eu llwybrau marchnad arferol, gyda’r rheini a oedd eisoes yn defnyddio gwasanaethau danfon a phrosesau ar-lein yn gallu cynnal a chynyddu eu gwerthiannau yn well. Mewn cyferbyniad, mae meithrinfeydd cyfanwerthol a’r rheini sy’n cyflenwi eu siopau eu hunain sydd wedi cau, wedi colli eu gwerthiannau i gyd – oni bai eu bod wedi llwyddo i addasu.

Dywedodd llawer o ymatebwyr eu bod wedi llwyddo i addasu ar ôl i’r llwybrau gwerthu gael eu cau yn wreiddiol, naill ai drwy ddelio â gwerthiannau uniongyrchol neu addasu eu prosesau cynhyrchu yn unol â’r galw.  Mae’r addasiadau hynny yn creu gwaith ychwanegol ac yn galw am weithlu mawr. Yn yr un modd, mae’r rheini sydd â gwasanaethau danfon ar-lein sefydledig yn gweld cymaint o alw fel eu bod yn wynebu pwysau sylweddol o ran y llwyth gwaith, sy’n arwain at straen.

Pan ofynnwyd sut maen nhw’n bwriadu newid prosesau cynhyrchu neu weithredu mewn ymateb i’r argyfwng, yr ateb mwyaf cyffredin oedd eu bod yn bwriadu cynhyrchu llai o blanhigion neu flodau. 

I’r meithrinfeydd sy’n lleihau eu cyfraddau cynhyrchu, bydd hyn yn arwain at brinder planhigion y flwyddyn nesaf.

Plants

Mae tyfwyr wedi treulio misoedd lawer yn cynllunio lefelau stoc ac yn meithrin eu cynnyrch ar gyfer eu tymor prysuraf, ac ni allai neb fod wedi rhagweld yr hyn oedd i ddod. Bydd y stoc yma i gyd yn difetha’n sydyn, felly dydy hi ddim mor hawdd ag ailafael ynddi. Pan nad yw cynnyrch yn cael ei werthu, mae o leiaf hanner yr ymatebwyr yn ei daflu fel gwastraff (53%), gyda gweddill y cynnyrch yn cael ei storio neu ei roi am ddim.

Mae HTA yn awgrymu y bydd cyfanswm y gwerthiannau planhigion a gollwyd yn y DU yn £687 miliwn erbyn diwedd mis Mehefin1.

Dywedodd meithrinfeydd planhigion eu bod yn rhagweld y byddent yn ailddechrau masnachu, gyda’r disgwyliad y bydd canolfannau garddio yn ailagor cyn bo hir. Felly, maen nhw’n paratoi at gynnydd dramatig yn y galw. Fodd bynnag, dywedodd ymatebwyr ei bod yn anodd gwneud cynlluniau busnes oherwydd yr ansicrwydd, gyda diffyg eglurder ynghylch sut i ddelio â phlanhigion wrth baratoi i'w gwerthu yn y dyfodol.

Dywedodd Sarah Gould, Tyfu Cymru: “Wrth i’r rheolau newid, byddai busnesau’n gwerthfawrogi cael mwy o fanylion ynghylch sut maen nhw’n berthnasol i blanhigion a blodau, a mwy o gysondeb wrth roi’r rheolau ar waith ar draws marchnadoedd y sector yma er mwyn sicrhau nad yw siopau arbenigol bach, sy’n gwerthu deunyddiau planhigion, o dan anfantais.

Bydd mynd ati i gyfleu natur y gofynion a’r rheolau newydd yn allweddol i sicrhau bod busnesau’n gallu dechrau masnachu eto yn ddiogel, ac ennyn ffydd cwsmeriaid.”

1. https://hta.org.uk/news/horticultural-sector-wiped-out-by-coronavirus.html 
2. https://www.tyfucymru.co.uk/home/knowledge-hub/industry-insights/welsh-ornamental-growers-immediate-experiences-of-and-responses-to-covid-19/

Mae’r prosiect hwn, sydd o dan arweiniad Lantra Cymru, wedi cael cyllid drwy Raglen Cymunedau Gwledig - Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.