Delena Davies, Adam & Lesley York yn defnyddio hoe mewn cae

Mae mecaneiddio gweithgarwch rheoli chwyn yn defnyddio llafur mewn ffordd fwy effeithlon mewn gardd farchnad yng Ngheredigion.

Mae Adam a Lesley York yn treialu hof olwyn arloesol fel prosiect safle ffocws Cyswllt Ffermio yn eu Gardd Fasnachol, sef Glebelands, yn Aberteifi.

Cynlluniwyd yr Hof Olwyn Terrateck a gynhyrchwyd yn Ffrainc ac sy'n cynnwys Bio-ddisgiau, i reoli chwyn hyd yn oed pan fydd cnydau yn agos i'w gilydd.  Mae'n cynnwys ffrâm olwynion dwbl er mwyn gallu pasio dros gnydau yn uniongyrchol.

Yn Glebelands, mae'r gwaith treialu yn canolbwyntio ar drawsblaniadau cennin, sy'n cael eu chwynnu â llaw neu gan ddefnyddio hof olwyn Glaser a thyrchu â phigau sbring.

Er bod y gwaith treialu hwn yn mynd rhagddo, ac o'r herwydd, nid yw canlyniadau'r prosiect wedi cael eu gwerthuso eto, roedd diwrnod agored a gynhaliwyd gan Cyswllt Ffermio ar y safle yn ddiweddar wedi cynnig dirnadaeth werthfawr i dyfwyr eraill o ddulliau chwynnu ar raddfa cae.

Dywedodd Mr York, sy'n tyfu cyflenwad trwy gydol y flwyddyn o lysiau ar y safle 10-erw, bod effeithlonrwydd yn allweddol mewn unrhyw fusnes, ac i dyfwyr, mae dulliau rheoli chwyn yn rhan annatod o hynny.

“Mae chwynnu â llaw yn ddrud.  Mae'r treial hwn wedi cynnig y cyfle i ni wella ein harfer presennol trwy brofi darnau o offer priodol sy'n chwynnu mewn ffordd effeithlon o hyd,”

Dywedodd.

Deallir mai dyma'r tro cyntaf y mae'r model hwn o hof wedi cael ei dreialu yn y DU ar raddfa gardd farchnad.

“Rydym wastad yn chwilio am ddulliau chwynnu sy'n arbed amser,” dywedodd Mr York, a fu'n fanwerthwr cyn iddo benderfynu bod yn dyfwr 20 mlynedd yn ôl.

Dywedodd bod yn rhaid gwaredu chwyn yn ystod y cam 'gwallt gwyn'.

“Pan fyddwch yn gweld chwyn, rydych chi wedi bod yn rhy hwyr yn ei ddal.”

Mae'r Terrateck yn claddu chwyn wrth iddo gael ei wthio yn ei flaen, gan fygu rhywogaethau fel gwlydd.

Mae'n cynnwys disgiau er mwyn gorchuddio rhesi o lysiau neu ar gyfer chwynnu manwl.

Mae'r ddwy ddisgen yn dod i fyny yn erbyn y rhesi o eginblanhigion yn ddestlus, gan dorri'r tir ger yr eginblanhigion a gwaredu'r pridd a'r planhigion chwyn bychain sydd yn union wrth ymyl y cnwd.

Felly, mae'r gwaith chwynnu a gyflawnir yn fanwl iawn, dywedodd Delana Davies, swyddog technegol garddwriaeth a thir âr Cyswllt Ffermio.

“Mae ganddo’r potensial i leihau cyfanswm yr oriau a dreulir yn chwynnu â llaw yn sylweddol,”

Dywedodd.

Mae cymariaethau cost amser a llafur, ynghyd ag effeithlonrwydd arsylwadau rheoli chwyn, yn cael eu gwerthuso.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.