Aerial View

Datganiad Ysgrifenedig: Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

Mae’r pandemig coronafeirws yn argyfwng iechyd y cyhoedd sydd wedi codi yn sydyn iawn  – o fewn ychydig o wythnosau. Er bod yr argyfwng hinsawdd wedi cymryd cyfnod hwy o lawer i ddod i’r amlwg, nid yw’r effaith mae’n ei chael ar iechyd y cyhoedd a’r economi yn llai arwyddocaol. Bydd mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn golygu gweithredu a chydweithio yn ddyfal ac yn barhaus, yma yng Nghymru ac yn fyd-eang.

Flwyddyn yn ôl i heddiw, pleidleisiodd y Senedd o blaid datgan argyfwng hinsawdd – y Senedd gyntaf yn y byd i wneud hynny. Heddiw mae ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol. Wrth unioni’r difrod mae’r pandemig wedi’i beri i’n cymdeithas a’n heconomi, rhaid inni gydgrynhoi’r cynnydd rydym wedi’i wneud wrth ymateb i’r argyfwng hinsawdd, a manteisio ar bob cyfle i sicrhau bod Cymru iachach a ffyniannus hefyd yn Gymru wyrddach a mwy cynaliadwy.

Fy mwriad yw cyflwyno Datganiad Llafar i’r Senedd ym mis Mehefin, yn fuan ar ôl inni gyhoeddi ein cyllideb atodol gyntaf, i amlinellu’r ffordd mae ein cynlluniau ar gyfer adfer yn cyd-fynd â’n huchelgeisiau ar gyfer sero-net, a sut rydym yn gallu mynd ymhellach a gweithio’n gyflymach er mwyn eu gwireddu. Yn ystod y cyfnod rhwng nawr a mis Mehefin, rydym yn gobeithio y gall Llywodraeth Cymru ymgysylltu ag Aelodau’r Senedd, sefydliadau cymdeithas sifil a’r cyhoedd i drafod sut mae Cymru yn gallu sicrhau adferiad sy’n seiliedig ar egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol ac amgylcheddol.

Heddiw rwy’n credu ei bod yn bwysig diolch i’r rhai sydd, er gwaethaf effaith ddifrifol COVID-19, yn parhau â’u gwaith i ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi dweud bod gweithredu ar yr hinsawdd yn parhau i fod ar frig eu hagenda. Mae’r staff o dan gryn bwysau, ar ôl ymdrin â chyfres o danau ac achosion difrifol o lygredd sydd wedi amharu ar amgylchedd naturiol Cymru yn ystod y cyfyngiadau symud, ymhlith pethau eraill. Yn ogystal â chyflawni eu swyddogaeth reoleiddio hanfodol, maent yn parhau i reoli’r coedwigoedd a’r mawndiroedd sy’n storio carbon, ac maent yn parhau i weithio ar brosiectau ynni adnewyddadwy ar dir sector cyhoeddus. 

Mae’r sector ynni wedi bod yn cadw’r goleuadau ymlaen, yn cysylltu seilwaith newydd fel ysbytai a chynyddu cadernid y system yn dilyn y stormydd a’r llifogydd.

Wind Turbines

Mae cwmnïau ynni adnewyddadwy wedi gorfod ymdopi â swyddfeydd a ffatrïoedd yn cau, a’r tarfu ar eu cyflenwyr a’u ffynonellau cyllid. Er hynny, maent yn parhau i ddatblygu a chyflwyno technolegau newydd, glanach, yn ogystal â gwneud cyfraniadau pwysig at ddatblygu’r polisïau sydd eu hangen i gyflymu’r broses o symud i system carbon isel. Yn wir, mae’r sector ynni ehangach wedi cysylltu seilwaith newydd pwysig yn ystod yr argyfwng, gan gynnwys ysbytai mwyaf newydd Cymru.

Mae academyddion a chynghorwyr arbenigol y Llywodraeth yn ailystyried eu hymchwil a’u cyngor polisi yn gyflym i’n paratoi ni ar gyfer y sefyllfa newydd rydym ynddi o ganlyniad i’r pandemig. Maent yn parhau i ddarganfod tystiolaeth newydd i sicrhau bod ein cynlluniau i ailadeiladu’r economi mewn modd sy’n ategu’r broses o symud i sero-net ac sy’n sicrhau cyfiawnder cymdeithasol a thwf amgylcheddol.  

Mae sefydliadau cymdeithas sifil a gwirfoddol wedi profi cryn anawsterau o ganlyniad i golli incwm a gohirio gweithgareddau cadwraeth hanfodol – mae hyn yn bwgwth blynyddoedd o waith amyneddgar a dyfal. Fodd bynnag, maent yn parhau i ddarparu cyngor ymarferol i’n hysbrydoli ni i gysylltu â natur yn ein cartrefi a’n hardaloedd ein hunain. Mae hyn yn cefnogi ein llesiant yn yr oes sydd ohoni, ac yn ein helpu i lawn werthfawrogi natur nawr i sicrhau ein bod yn gwneud y dewisiadau cywir yn y dyfodol. Mae wedi bod yn gadarnhaol iawn clywed adroddiadau am gymaint o bobl yn gwerthfawrogi natur o’r newydd ar eu stepen ddrws, ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn parhau pan fydd y cyfyngiadau symud yn dod i ben.

Mae’n dda gennyf gael y cyfle i ddiolch i’r gweithwyr hyn, ac i ffermwyr, coedwigwyr a rheolwyr tir eraill yng Nghymru sy’n parhau i weithio i ddiogelu ein hamgylchedd naturiol a chyflawni ymateb Cymru i’r argyfwng hinsawdd. Mae Llywodraeth Cymru, ac rwy’n gobeithio  pob aelod o’r Senedd, yn cydnabod gwerth eich gwaith yn yr adeg hynod anodd a heriol hon.

Yn olaf mae’r rhai sydd eisoes yn dioddef effeithiau’r argyfwng hinsawdd, ac sydd bellach yn teimlo effeithiau COVID-19 yn ein meddyliau. Y Cymunedau yr effeithiwyd arnynt gan y llifogydd ym mis Chwefror, y mae dilyn cyngor y Llywodraeth i aros gartref yn fwy o her iddyn nhw nag i eraill, oherwydd y difrod dinistriol i’w cartrefi ac oherwydd eu bod wedi colli llawer o’r eiddo a fyddai wedi cynnig cysur iddynt. Yr aelwydydd sy’n cael trafferth fforddio ynni a thrafnidiaeth, ac sydd bellach yn teimlo mwy o bwysau byth wrth iddynt gael trafferth fforddio a chael mynediad at fwyd. Y llawer o bobl ifanc, a oedd yn gobeithio y gellid atal ecosystemau’r byd rhag cwympo a’u hadfer yn ystod eu hoes, sydd bellach yn wynebu dyfodol sydd i’w weld cymaint mwy ansicr nag o’r blaen. 

Rhaid ichi wybod ein bod yn sefyll gyda chi. Rydym yn benderfynol y bydd y gwaith o adfer o’r pandemig COVID-19 yn cyflymu yn hytrach nag arafu’r broses o symud i economi carbon isel a sicrhau Cymru iachach, fwy cyfartal.