Walk the red kite trail

Os ydych chi’n credu nad oes ffordd well o liniaru gormodedd y Nadolig na mynd ar daith gerdded braf yng nghefn gwlad, yna byddwch chi’n falch o glywed bod tri llwybr cerdded newydd sbon wedi’u hagor yng Nghwm Taf Bargoed. Mae Taith y Barcud Coch yn gyfres o dair taith gerdded gylchol sydd wedi’u cynllunio ar gyfer cerddwyr o bob gallu. Gan ddechrau yng Nghanolfan Summit Rock UK, mae’r llwybr yn cynnwys lonydd tawel cyn esgyn i Gelligaer a Chomin Merthyr lle gallwch chi weld golygfeydd godidog o ardal Taf Bargoed.

Dywedodd Mark Ward, Ceidwad y Comin: “Mae Comin Gelligaer a Merthyr yn ysgyfaint gwyrdd hanfodol i’r cymoedd, ac fe wnaethon ni ddatblygu’r llwybrau hyn oherwydd ein bod am annog pobl i ddefnyddio a mwynhau’r dreftadaeth, y fioamrywiaeth a’r dirwedd gyfoethog sydd ar gael yma ac i wneud hynny mewn modd cyfrifol. Mae gennym lwybr byr 2 km o hyd, llwybr canolig 5 km o hyd a llwybr hirach sy’n ymestyn am 7 km. Mae pob un o’r llwybrau hyn yn  croesi tir amaethyddol agored, felly gofynnwn i bobl wisgo dillad ac esgidiau priodol a pharchu’r cod cefn gwlad. Mae’r llwybr byr hefyd yn cynnwys cyfres o geogelciau i’w harchwilio.”

Mae Comin Gelligaer a Merthyr yn dirwedd sy’n cynnal bywyd a gwaith. Mae’r holl dir comin yn nwylo perchnogion all fod yn unigolion preifat, sefydliadau neu gyrff cyhoeddus. Mae cominwyr fel arfer yn ffermwyr sy’n meddu ar Hawliau Comin cofrestredig, ac mae hynny’n caniatáu iddynt bori’u hanifeiliaid (defaid yn bennaf ond hefyd gwartheg, moch, ceffylau a hyd yn oed hwyaid) ar ddarn o dir a rennir - sef y comin - heb ffensys na ffiniau rhyngddynt. Cominwyr cofrestredig yn unig sydd â hawliau pori - ni ddylai unrhyw un arall bori da byw ar dir comin.

 

PDF icon

Dywedodd Dawn Bowden, yr AC ar gyfer Merthyr Tudful: “Rwy’n edrych ymlaen at ymweld â’r llwybr hwn a cherdded ar ei hyd yn y Flwyddyn Newydd pan fydd cyfyngiadau Covid yn caniatáu, a gweld yn union yr hyn y mae Prosiect Tirwedd y Comin wedi’i gyflawni o fewn y dirwedd amaethyddol bwysig hon.”

Datblygwyd Taith y Barcud Coch gan brosiect Tirwedd y Comin ac fe’i cefnogwyd ar y cyd gan Grŵp Gweithredu Gwledig Cwm Taf a Grŵp Gweithredu Lleol Cwm a Mynydd trwy raglen LEADER yr Undeb Ewropeaidd. Mae LEADER yn rhan o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020 ac fe’i hariennir gan Gronfa’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.