Webinar SMS

Mae’r Rhwydwaith Gwybodaeth am Ecosystemau, mewn cydweithrediad â Grŵp Dysgu Cydweithredol Taliadau am Wasanaethau Ecosystem (TWE) – a ariennir gan Gynllun Rheoli Cynaliadwy (SMS*) Llywodraeth Cymru, yn cynnal dau weminar i rannu’r hyn a ddysgwyd oddi wrth set o fentrau arloesol sy’n Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy yng Nghymru. Mae hyn yn gyfle cyffrous i feddwl am yr hyn a ddysgwyd a’r cynnydd addawol rydyn ni wedi’i wneud yn y gwaith hwn hyd yn hyn. 

Bydd y cyfranogwyr yn cynnwys: Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon, Prosiect SMS TWE Pumlumon, Prosiect SMS Mawndiroedd Cymru, Prosiect SMS Rhostir Powys, Grŵp Ffermwyr Fferm Ifan, Dŵr Cymru, Prosiect Mega-ddalgylch Bannau Brycheiniog, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Partneriaeth Mawn Swydd Efrog (gan roi agwedd o Loegr ar y cynnydd yng Nghymru) a chynllun masnachu maethynnau SMS BRICS. 

Waeth a ydych yn gweithredu yng Nghymru neu y tu hwnt, mae croeso ichi ymuno â’r gweminarau hyn yn rhad ac am ddim i ddysgu a rhannu eich barn. 

Dau weminar rhyngweithiol: 

  1. Rhan A: 1–2pm 28th Mehefin
  2. Rhan B: 1–2pm 29th Mehefin

Gweler linc i'r digwyddiad yma: https://ecosystemsknowledge.net/events/webinars

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.