Wild Horse Brewing Company

Mae'r Wild Horse Brewing Company, o Landudno, wedi ehangu’n ddiweddar, gan ddyblu faint mae’n gallu’i fragu bob blwyddyn o 175,000 litr (308,098 peint) i 350,000 litr (616,197 peint). Mae’r bragdy wedi cael pedwar tanc eplesu newydd yn ddiweddar, gan ychwanegu at y pedwar eplesydd sydd ganddo eisoes, ac mae hefyd wedi newid ei hen danciau gwirod poeth ac oer, gan osod dau newydd, sy’n fwy o faint ac yn fwy effeithlon o ran ynni, yn eu lle.

Cafodd yr offer newydd eu gweithgynhyrchu yng Ngwlad Belg ac fe’u cyflenwyd gan gwmni ABUK o Swydd Lincoln, sy’n arbenigo mewn offer bragu. Gosodwyd y tanciau newydd yn ystod wythnos gyntaf mis Rhagfyr, yn rhan o brosiect buddsoddi cyfalaf a oedd yn werth £134,000, ac a oedd yn cynnwys estyn y llawr resin presennol, sydd ar oleddf, a chreu ystafell oer newydd 600 troedfedd sgwâr, sy’n oeri i 30C, ac a gwblhawyd yn gynharach eleni. Gosodwyd dau danc eplesu 1600 litr a dau danc eplesu 3200 litr, yn ogystal â dau danc gwirod 5500 litr, er mwyn gwneud y bragdy’n fwy effeithlon.

Mae Wild Horse wedi gweithio mewn partneriaeth ag Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru i gyllido’r prosiect, a disgwylir iddo greu pedair swydd lawnamser newydd dros y tair blynedd nesaf. Yn gynharach eleni, dyfarnodd is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru gyllid grant i Wild Horses o dan y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig ac mae’r cwmni wedi bod yn gweithio hefyd gyda Banc Datblygu Cymru i gael benthyciad er mwyn iddo fedru bwrw ymlaen â’r prosiect.

Dywedodd Dave Faragher, bragwr a sylfaenydd Wild Horse: "Mae cael gweld y gwaith ehangu hwn yn dod i ben ar ôl misoedd lawer o gynllunio yn destun cyffro mawr inni. Rydyn ni wedi cael cryn anhawster dros y pedwar mis diwethaf wrth inni geisio sicrhau bod ein mathau craidd a thymhorol o gwrw’n dal i fod ar gael, felly mae’r capasiti ychwanegol hwn i'w groesawu'n fawr. Rydyn ni’n edrych ymlaen hefyd at ryddhau ambell fath newydd ac unigryw o gwrw yn y flwyddyn newydd, ar ôl inni fod heb y capasiti i’w bragu ers mis Mai."

Am ragor o wybodaeth ewch i: https://businesswales.gov.wales/cy/newyddion-blogiau/dave-faragher-o-wild-horse-brewing-company