Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal cyfres o gynadleddau a rhith ddigwyddiadau rhwng 2 a 6 Tachwedd 2020.

Bydd ‘Wythnos Hinsawdd Cymru’ yn nodi dyddiad Cynhadledd wreiddiol y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd (COP26) ac yn dechrau cyfri’r dyddiau nes dyddiad newydd COP26 a’n Cynllun Cyflawni nesaf (LCDP2).

Bydd yn cynnwys darllediadau byw digidol am ddim a digwyddiadau rhyngweithiol gan wneuthurwyr polisi cenedlaethol a byd-eang ac arloeswyr. Byddant yn trafod ac yn cwestiynu’r camau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a hynny mewn cyd-destun o bandemig byd-eang. 

Hoffem wahodd ein rhanddeiliaid i helpu i osod yr agenda a chynnal digwyddiadau gyda ni. 
 
Byddwn yn ychwanegu rhagor o wybodaeth at ein gwefan ynghylch sut gallwch chi gymryd rhan dros y misoedd nesaf. Yn y cyfamser, mae croeso i chi gyflwyno eich syniadau ar gyfer Wythnos Hinsawdd Cymru drwy lenwi ein harolwg.