A film crew from S4C at Puff Pigs farm near Mountain Ash discussing Porc from Wales Week_

Roedd ymgyrch ddiweddar dros gyfnod o wythnos gan Hybu Cig Cymru (HCC) a Menter Moch Cymru i hyrwyddo'r porc gorau o Gymru yn llwyddiannus dros ben a thynnodd ddŵr o ddannedd pobl ledled Cymru. 

Trefnwyd yr ymgyrch o amgylch Gŵyl Santes Dwynwen, pan wahoddwyd aelodau o’r wasg a phobl ddylanwadol o’r cyfryngau cymdeithasol i weld sut mae ffermydd yn sicrhau bod porc o Gymru yn gig blasus a chynaliadwy. Yn ogystal â hyn, cynhaliwyd sesiwn blasu mewn tŷ bwyta yng Nghaerdydd, pan gynigiwyd bwydlen arbennig â phorc ym mhob saig, gan gynnwys y pwdin. Cynhaliwyd cystadleuaeth ar-lein ar nifer o sianeli a gwahoddwyd yr enillwyr i fynychu'r cinio tri chwrs. 

Roedd yr ymateb i’r ymgyrch yn rhagorol gyda 67% yn fwy o ddilynwyr na’r llynedd  i’r sianeli cyfryngau cymdeithasol. Yn ogystal, roedd 240% yn fwy o ymgysylltiad â’r gweithgaredd, o’i gymharu â’r tro cyntaf i ymgyrch Wythnos Porc o Gymru gael ei chynnal yn 2019. 

Am y tro cyntaf, hyrwyddwyd yr ymgyrch trwy gyfrwng Instagram, a bu hyn yn fodd i ddenu nifer fawr o ddilynwyr ifanc. Golygodd hyn fod negeseuon allweddol, ynghyd â lluniau atyniadol o fwyd, yn cael eu rhannu ymhlith cynulleidfaoedd newydd. Cafwyd sylwadau ar ba mor drawiadol oedd lliw ac ansawdd y cig, gan nodi bod porc yng Nghymru fel arfer yn deillio o genfeiniau bach sy'n cynhyrchu anifeiliaid hapus â gwell blas.  

Dywedodd Kirstie Jones, Swyddog Datblygu'r Farchnad yn HCC: “Mae’n galonogol gweld pobl ar gyfryngau cymdeithasol yn cael eu cyfareddu ac yn rhannu’r neges bwysig ynghylch cynaliadwyedd a blas ansawdd porc a gynhyrchir yma yng Nghymru. Roedd llawer o’r gwesteion yng nghinio Santes Dwynwen yn postio lluniau o’u prydau blasus yn frwd ar draws eu rhwydweithiau dylanwadol ac o’r herwydd roeddem yn gallu manteisio ar ddemograffeg newydd a phwysig." 

Dywedodd Melanie Cargill o Fenter Moch Cymru, sef menter a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a oedd yn bartner yn yr ymgyrch: “Mae ffermwyr yma yng Nghymru’n cynhyrchu peth o’r porc mwyaf blasus o ansawdd uchel sydd ar gael i ddefnyddwyr ac mae’n golygu ychydig iawn o filltiroedd bwyd pan fydd yn cael ei brynu’n lleol. Mae porc o Gymru yn llawn blas ac roeddem yn falch iawn o'i gyflwyno fel pryd tri-chwrs yn y profiad blasu a gafwyd fel rhan o wythnos Porc o Gymru. Mae'n dangos pa mor amlbwrpas yw’r cig y gellir ei ddefnyddio mewn cymaint o ffyrdd.”

Yn ogystal â'r sylw ar y cyfryngau cymdeithasol, cafodd Wythnos Porc o Gymru sylw hefyd ar ITV Cymru ac  S4C. Buwyd y ffilmio ar fferm Puff Pigs, ger Aberpennar yng Nghwm Cynon, a enillodd “Cyflwynwch eich Selsig Gorau”, sef cystadleuaeth a gyd-feirniadwyd gan Scott Quinnell yn Sioe Frenhinol Cymru 2019.

Eleni, derbyniodd cynhyrchwyr porc becyn cymorth marchnata a oedd yn gynnwys cardiau ryseitiau, baneri a phosteri i'w helpu i gefnogi'r ymgyrch. Roedd gan lawer o siopau a ffermydd eu cynigion a'u cystadlaethau eu hunain i ategu ymgyrch Wythnos Porc o Gymru. 

Dangosodd Wythnos Porc o Gymru un ffordd yn unig i ddefnyddwyr o sut y gallan nhw gefnogi busnesau lleol a chyfrannu, ar yr un pryd, at amgylchedd ffermio mwy cynaliadwy.

Cefnogir prosiect Menter Moch Cymru gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.