Mae y Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig (Anamaethyddol) yn talu costau buddsoddiadau cyfalaf ac yn cefnogi prosiectau yng Nghymru sy'n cyfrannu at un neu fwy o'r canlynol:
- Arallgyfeirio'r economi wledig
- Datblygu'r gadwyn gyflenwi ar gyfer cynhyrchion naturiol
- Cynyddu cynhyrchiant, effeithlonrwydd a chystadleurwydd busnesau gwledig.
Mae'r cynllun yn agored i fusnesau micro a bach anamaethyddol sy'n bodoli eisoes ac sy'n dechrau, gan gynnwys ffermwyr neu aelodau o aelwyd y fferm sy'n arallgyfeirio i weithgareddau anamaethyddol. Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ddangos bod marchnad hyfyw wedi'i nodi ar gyfer eu cynnyrch(au) ac na fyddai'r prosiect yn mynd rhagddo heb y grant.
Dyraniad y gyllideb ar gyfer y ffenestr hon yw £3 miliwn, ac agorodd ar 26 Ebrill 2021, a bydd yn cau am 23:59 ar 4 Mehefin 2021.
Uchafswm trothwy'r grant fesul ymgymeriad ar gyfer unrhyw brosiect buddsoddi unigol yw £50,000, a'r lleiafswm yw £5,000. Uchafswm cyfradd y grant ar gyfer unrhyw brosiect buddsoddi unigol yw 40% o gyfanswm y costau cymwys.
Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun ar gael yma.