Mae’r SMS yn gofyn am gydweithio yn hytrach nag ymgeiswyr unigol i ddatblygu cynigion ar gyfer prosiectau i’w cyflwyno dros gyfnod o ddwy i dair blynedd ar y mwyaf.
Diben y SMS yw cefnogi prosiectau cydweithredol ar raddfa tirwedd sy’n darparu atebion ar sail natur i wella cadernid ein hadnoddau naturiol a’n hecosystemau mewn ffordd sy’n sicrhau manteision i fusnesau fferm ac iechyd a llesiant cymunedau gwledig hefyd. Mae prosiectau SMS yn cymryd camau i wella bioamrywiaeth; gwella seilwaith gwyrdd; cynnal rheolaeth well o dir a dŵr ac, yn bwysig, hwyluso addasu i newid yn yr hinsawdd a lliniaru newid yn yr hinsawdd ar raddfa tirwedd.
Mae pob prosiect yn cyflawni amrywiaeth eang o gamau gweithredu ac atebion ar sail natur sydd i gyd yn cefnogi amrywiaeth eang o fanteision gwahanol.
Dyma rai astudiaethau achos i'w rhannu.