Sustainable Management Scheme

Ffenestr Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy (SMS) - Ffenestr 5 yn cau heddiw (8 Awst)

Bydd y Cynllun Rheoli Cynaliadwy yn cynnig cymorth ariannol ar gyfer amryfal weithgareddau a fydd yn gwella’r ffordd y caiff ein hadnoddau naturiol eu rheoli. Bydd hynny, yn ei dro, yn cyfrannu at les ein cymunedau gwledig. 

Mae’r grant ar gael i amrywiaeth o unigolion a sefydliadau sy’n mynd ati i gydweithredu ar gynlluniau: 

  • BBaChau a busnesau mawr, sefydliadau addysg neu ymchwil 
  • ffermwyr, coedwigwyr, rheolwyr mathau eraill o dir 
  • grwpiau cymunedol neu wirfoddol (gan gynnwys pob sefydliad 
  • anllywodraethol), cymdeithasau perchenogion, coetiroedd cymunedol, ac ymddiriedolaethau  
  • awdurdodau lleol.

Mae’r cynllun yn cynnig grantiau i grwpiau cydweithredol sy’n awyddus i wella’n hadnoddau naturiol a hefyd y manteision a ddarperir ganddynt; sydd am weithredu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac i sicrhau bod busnesau a chymunedau’n fwy abl i ymdopi ag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.  

Gall y grantiau helpu grwpiau i gychwyn a hwyluso cynlluniau cydweithredol newydd i weithgareddau cydgysylltiedig ar raddfa’r dirwedd gan nifer o sefydliadau er mwyn sicrhau manteision parhaol ar draws ein cymunedau.

Cynllun Rheoli Cynaliadwy

Yr uchafswm a gynigir ar gyfer unrhyw brosiect buddsoddi unigol yw 100% o gyfanswm y gost.

PWYSIG: Rhaid i chi sicrhau’ch bod yn llenwi’r ffurflen gais a’r meini prawf ar gyfer y cyfnod ymgeisio hwn, gwiriwch ddyddiadau’r cyfnod ar y ffurflen.

Cewch ragor o fanylion am y meini prawf drwy ddarllen y Canllawiau ar gyflwyno Datganiad o Ddiddordeb a’r dogfennau ategol am y Cynllun

 

Peidiwch ag anghofio, mae gwasanaeth yw gael i helpu ffermwyr a choedwigwyr i wneud cais o dan y Cynllun Rheoli Cynaliadwy:

https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/gwasanaeth-cefnogi-cynllun-rheoli-cynaladwy-sms 

Unrhyw gwestiynau ar Y Cynllun Rheoli Cynaliadwy (SMS) cysylltwch â: sustainablemanagementscheme@gov.wales