Datganiad Ysgrifenedig: Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

Fel y gwyddom ni oll, mae’r sefyllfa bresennol wedi dangos pwysigrwydd amlwg cysylltedd digidol, boed ar gyfer dysgu gartref, cadw mewn cysylltiad ag anwyliaid neu weithio o gartref.  Mae ein rhaglen Cyflymu Cymru, sydd wedi cynnig mynediad band eang cyflym iawn i dros 733,000 o adeiladau, wedi bod yn fuddsoddiad hanfodol i gefnogi Cymru drwy’r pandemig a thu hwnt i hynny wrth inni ganolbwyntio ar adferiad.  Fodd bynnag, mae llawer o waith i’w wneud eto. 

Yn ystod y mis diwethaf rhoddais y newyddion diweddaraf i Aelodau ynghylch nifer o ddatblygiadau yn ein hymdrechion i sicrhau y gall cartrefi a busnesau yng Nghymru elwa o’r mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy gan gynnwys ychwanegiad Cymru i’r Talebau Cysylltedd Gigabit Gwledig a chanlyniadau adolygiad diweddaraf y farchnad agored.   

Rwyf bellach mewn sefyllfaI i roi diweddariad pellach ar gynlluniau i ymestyn ein band eang ffibr gydag Openreach a’r rhan allweddol y mae’r rhwydwaith Prosiect Cydgasglu Band Eang y Sector Cyhoeddus (PSBA) yn ei chwarae yn ein hymateb i Covid 19.

Trwy ein cytundeb gydag Openreach rydym yn cynyddu nifer yr adeiladau fydd yn elwa drwy’r prosiect o 26,000 i 39,000. Bydd yr estyniad hwn i’r prosiect yn targedu ardaloedd yr awdurdodau lleol sydd â llai na 90% o fand eang cyflym iawn.  Bydd hyn yn helpu i sicrhau gwell cydbwysedd o ran y band eang sydd ar gael ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru ac yn rhoi mynediad i’r adeiladau ychwanegol hynny at y band eang cyflymaf sydd ar gael.  Hefyd, mae rhagor o waith modelu a chynllunio wedi gweld bod gan oddeutu 4,300 o’r adeiladau sydd wedi eu cynllunio fel rhan o gam cyntaf y prosiect naill ai fynediad eisoes neu i gael mynediad at fand eang cyflym iawn.  Mae’r adeiladau mwy trefol hyn wedi eu dileu o’r prosiect a rhai eraill yno yn eu lle. 

Bydd swm y cyllid ar gyfer y prosiect yn cynyddu i £56 miliwn.  Mae hyn yn cynnwys cyllid Llywodraeth Cymru a’r UE gyda rhywfaint o gyllid ychwaengol gan Lywodraeth y DU.  Y bwriad yw cwblhau’r prosiect cyfan erbyn Mehefin 2022.  Bydd pob adeilad yn gallu cael mynediad at ffibr diogelu at y dyfodol i’r adeilad gan alluogi cyflymder bandeang gigabit.  Mae dadansoddiad o nifer yr adeiladau fesul awdurdod lleol wedi’i atodi. 

Ddiwedd Mawrth 2020, roedd cam cyntaf y prosiect wedi galluogi mynediad at fand eang ffibr llawn, allai ddefnyddio gigabit, i 8,283 adeilad.  Darperir diweddariad pellach o’r ffigurau hyn i Aelodau ym mis Awst. 

Mae’r cyflwyniad yn ddim ond rhan o gyfres o ymyraethau i wella cysylltedd sy’n cynnwys y cynllun Allwedd Band Eang Cymru, Cronfa Band Eang Lleol ac ychwanegiad Cymru at y cynllun Talebau Gigabit Gwledig Llywodraeth y DU.  

Mae’r rhwydwaith PSBA wedi chwarae rhan bwysig yn ystod camau cychwynnol ymateb Covid 19 gan gynnig cysylltedd cyflym iawn i ysbytai y Ddraig Goch yn gyflym ac effeithiol.  Mae’r sefyllfa bresennol wedi tynnu sylw at bwysigrwydd a phosibiliadau gweithio gartref ar draws y sector cyheoddus.  Mae hefyd wedi pwysleisio bod rhai gweithwyr y sector cyhoeddus sy’n gweithio gartref angen cysylltiad cyflym gradd busnes i gyflawni eu swyddogaethau.  Mewn ymateb mae’r PSBA wedi cyflwyno cynnyrch newydd ar gyfer derbynnwyr fydd yn caniatáu i fusnesau raddio cysylltiadau sydd i’w darparu’n arferol i gartrefi gweithwyr y sector cyhoeddus ble y bo angen.  Gallai hyn, er enghraifft, ganiatáu i radiolegwyr dderbyn a gweld delweddau pelydr-X  a delweddau meddygol eraill gartref yn ddiogel ac  yn ddibynadwy. 

Mae’r diweddariad hwn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i ymyrryd mewn maes sydd heb ei ddatganoli er mwyn gwella cysylltedd ledled Cymru ac i arloesi er mwyn cefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus. 

Byddaf yn parhau i ddiweddaru Aelodau yn hyn o beth.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.

Dadansoddiad o adeiladau yn ȏl awdurdod lleol a lot:

Lot ac Awdurdod Lleol Adeilad
1 11,224
Ceredigion 2,592
Conwy 1,608
Sir Ddinbych 1,862
Gwynedd 3,974
Ynys Mȏn 1,188
2 12,584
Caerdydd 908
Gorllewin Swydd Gaer a Chaer 4
Sir y Fflint 2,027
Sir Fynwy 2,163
Caesnewydd 304
Powys 3,516
Swydd Amwythig 2
Bro Morgannwg 1,117
Wrecsam 2,543
3 15,308
Blaenau Gwent  
Pen-Y-Bont ar Ogwr 1,267
Bwrdeistref Sirol Caerffili 2,831
Sir Gaerfyrddin 3,185
Merthyr Tudful 474
Castell-Nedd Port Talbot 812
Sir Benfro 4,128
Rhondda Cynon Taf 1,507
Abertawe 483
Torfaen

621

Cyfanswm 39,116

Mae’r adeiladau hyn yng Nghymru ond yn cael eu categoreiddio yn y Premiwm Sylfaen Cyfeiriadau yn gysylltiedig ag Awdurdod Lleol yn Lloegr.