Lord Mark Price

Gyda nifer o broblemau, aflonyddwch a thrychinebau posibl yn cael eu taflu at y sector cig coch o wahanol gyfeiriadau ar hyn o bryd, bydd cynhadledd bwysig i’r diwydiant yn edrych ar sut gall y sector ymladd yn ôl.

Ddydd Iau 14 Tachwedd, bydd Cynhadledd Hybu Cig Cymru (HCC) yn canolbwyntio ar sector cig coch unigryw Cymru. Cadeirydd HCC, Kevin Roberts fydd yn agor y digwyddiad gan egluro fod gan y diwydiant stori i’w hadrodd wrth gwsmeriaid sy’n wahanol i systemau ffermio dwys sy’n weithredol mewn rhannau eraill o’r byd. Yng Nghymru, mae da byw yn cael eu magu i safonau iechyd a lles a chynaladwyedd amgylcheddol uchel iawn. Yn ogystal â chynhyrchu cynnyrch premiwm, gall y diwydiant fod yn rhan o’r ateb i newid hinsawdd byd eang a diogelwch bwyd.

Meddai Prif Weithredwr HCC, Gwyn Howells: “Edrychwn ymlaen at groesawu’n siaradwyr gwadd i’n cynhadledd i arwain y trafodaethau ar sector sy’n hollbwysig i economi Cymru.

“Bydd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC yn rhannu ei barn a’i gweledigaeth ar gyfer sector gynaliadwy yn y dyfodol. Mae’r Arglwydd Mark Price yn un o brif siaradwyr y Gynhadledd hefyd; mae ganddo wybodaeth a dealltwriaeth drylwyr ar wleidyddiaeth a phatrymau prynu cwsmeriaid. Edrychwn ymlaen hefyd at gyfraniad yr arbenigwraig ar ddiet ac iechyd, Dr Zoë Harcombe.” 

Mae’r Arglwydd Mark Price yn Gyn-Weinidog Masnach a Chyn-Reolwr Gyfarwyddwr Waitrose. Bydd yn canolbwyntio ar gig coch a’i le mewn tirlun masnachol. Mae pobl yn newid eu harferion bwyta a phrynu, a bydd yn rhannu ei arbenigedd ar sut mae hyn yn cael effaith ar y sector manwerthu a bwyta allan. Bydd hefyd yn rhannu ei syniadau ar gael mynediad i farchnadoedd rhyngwladol newydd i Gig Oen ac Eidion Cymru.

Mae Dr Zoë Harcombe yn ymchwilydd annibynnol ar ddeiet ac iechyd, ac yn gefnogwr brwd o gig coch a’i fanteision i iechyd. Bydd yn canolbwyntio ar y ddadl gyhoeddus a’r wyddoniaeth o ran cig coch a braster.

Dr Zoë Harcombe
Dr Zoë Harcombe

 

Ychwanegodd Mr Howells: “Bydd themâu allweddol eraill ar yr agenda hefyd yn cynnwys neges amgylcheddol HCC a diweddariad ar brisiau cig eidion sy’n achosi cryn bryder i ffermwyr ledled y DU.

"Byddwn hefyd yn rhoi diweddariad ar weithgaredd diweddar HCC, yn cynnwys ein marchnata digidol ar gyfer Cig Oen ac Eidion Cymru, a’r Rhaglen Datblygu Cig Coch (RMDP) arloesol sy’n edrych i drawsnewid agweddau o gynhyrchu a bwyta cig coch yn y dyfodol. 

“Edrychwn ymlaen at groesawu ffermwyr, proseswyr, gwneuthurwyr polisi ac unrhyw un â diddordeb yn y sector cig coch i’r digwyddiad a fydd yn llwyfan ar gyfer trafodaethau cynhyrchiol a diddorol ar ddyfodol ein diwydiant.”

Mae’r Gynhadledd yn dychwelyd i Ganolfan yr Aelodau ar Faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd, gyda’r cyfnod cofrestru yn dechrau am 3pm, a’r digwyddiad ei hun yn dechrau am 3:30pm. Cyn cloi am 7pm, bydd cyfle i holi aelodau o Fwrdd HCC am unrhyw bynciau llosg yn ystod sesiwn holi ac ateb arbennig.

Cefnogir yr RMDP gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. 

Hefyd yn digwydd ar 14 Tachwedd, bydd digwyddiadau blasu fel rhan o brosiect BeefQ. Mae HCC yn bartner yn y prosiect sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth. Gwahoddir y cyhoedd i flasu a sgorio samplau o gig eidion a defnyddir y canlyniadau i greu system rhagweld ansawdd bwyta i Gymru. Bydd tair sesiwn yn y Pafiliwn Rhyngwladol, sydd hefyd ar Faes y Sioe Frenhinol am 11:00am, 12:15pm and 1:30pm. Mae cofrestru ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiadau yma’n hanfodol drwy gysylltu â HCC cyn 11 Tachwedd. 

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar hybucig.cymru a gofynnir i bobl gysylltu â HCC i gofrestru ar gyfer y Gynhadledd erbyn 11 Tachwedd hefyd: 01970 625050 / info@hybucig.cymru