Farm Shed

Mynegi Diddordeb - Cyfnod i agor ar 2il Medi

Mesur 4.1 

Bydd y datganiadau o ddiddordeb hyn yn canolbwyntio ar reoli a storio maethynnau.

Amserlenni

1.    Bydd y Datganiadau o Ddiddordeb hwn (https://llyw.cymru/grant-cynhyrchu-cynaliadwy) ar agor o'r 2il Medi 2019.
2.    Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 11 Hydref 2019
3.  
 Bydd yn bosibl cyflwyno Datganiadau o Ddiddordeb unrhyw adeg yn ystod y cyfnod y bydd y cyfnod Datganiadau o Ddiddordeb ar agor.

Arian sydd ar gael

4.    Mae gan y datganiadau o ddiddordeb hyn ar gyfer y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy gyllideb o £8 miliwn

Pwy sy'n Gymwys

5.    Bydd eich Datganiadau o Ddiddordeb ond yn cael eu hystyried yn gymwys ar gyfer eu dethol os bydd un o aelodau'r busnes sy'n cyflwyno'r Datganiad o Ddiddordeb wedi bod yn bresennol yn nigwyddiad Sioe Deithiol Ffermio Cynaliadwy Cyswllt Ffermio. (https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/cysylltwch-0)
6.    Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n bresennol fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio a Taliadau Gwledig Llywodraeth Cymru gyda'r Cyfeirnod Cwsmer ar gyfer bod yn aelod busnes ac y maent am ei ddefnyddio i wneud cais.
7.    Ni fyddwch yn gymwys i wneud cais ar gyfer cyfnod datganiadau o ddiddordeb y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy hwn os yw eich busnes wedi cael cais Grant Cynhyrchu Cynaliadwy llwyddiannus o dan gylch 1, 2 neu 3.
8.    Y grant mwyaf y gellir ei roi yw £50,000
9.    Y grant lleiaf y gellir ei roi yw £12,000

Caiff ymgeiswyr gyflwyno eu cwestiynau am eu cais Datganiad o Ddiddordeb a'r broses gan ddefnyddio eu cyfrif RPW ar-lein.

Gallwch hefyd gael mwy o wybodaeth am y Cynllun Grant Cynhyrchu Cynaliadwy yma:  https://llyw.cymru/cynllun-rheoli-cynaliadwy