SPG

Datgan Diddordeb – Cyfnod yn agor ar 1 Chwefror

Mesur 4.1 

Ffocws y cyfnod datgan diddordeb hwn fydd rheoli a storio maethynnau. Os cewch eich dewis, bydd angen ichi ddangos yn eich cais llawn sut y bydd y buddsoddiad yn eich helpu i gydymffurfio â Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2020, neu i weithio tuag at hynny.

Amserlenni

1.    Bydd seithfed cyfnod Datgan Diddordeb y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy (SPG) (https://llyw.cymru/grant-cynhyrchu-cynaliadwy) yn agor ar 1 Chwefror 2021.
2.    Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Datganiad Diddordeb yw 12 Mawrth 2021.
3.    Gellir cyflwyno Datganiad Diddordeb unrhyw bryd yn ystod y cyfnod Datgan Diddordeb drwy eich cyfrif RPW Ar-lein yn unig.

Arian sydd ar gael

4.    Mae gan cyfnod Datgan Diddordeb y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy gyllideb o £8 miliwn.

Cymhwystra

5. Nid yw'n ofynnol ichi fynychu Digwyddiad Ffermio Cynaliadwy fel rhan o'r broses ymgeisio ar gyfer Rownd 7 y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy.
6. Nid ydych bellach yn anghymwys i wneud cais os oeddech yn llwyddiannus yn rowndiau 1, 2 a 3 y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy.
7. Mae nifer o ddisgrifiadau a chodau eitemau cymwys wedi'u diwygio ar gyfer y rownd hwn.  Os ydych yn ailgyflwyno cais neu'n ystyried cais o'r blaen, cyn cyflwyno Datganiad Diddordeb ar gyfer SPG7, dylech ymgyfarwyddo â'r eitemau cymwys newydd yn llyfryn eitemau cymwys Atodiad A.
8. Bydd gweminar wybodaeth wirfoddol, a drefnir drwy Cyswllt Ffermio, yn cael ei chynnal yn fuan ar ôl i'r cyfnod Datgan Diddordeb agor – manylion i'w cyhoeddi.
9. Uchafswm y dyfarniad grant yw £50,000.
10. Isafswm y dyfarniad grant yw £12,000.

Gall ymgeiswyr gyflwyno cwestiynau am eu Datganiad Diddordeb a’r broses drwy eu cyfrif RPW Ar-lein.

Mae rhagor o wybodaeth am y Grant Cynhyrchu Cynaliadwy i’w gweld yma:
https://llyw.cymru/grant-cynhyrchu-cynaliadwy