Social Distancing Promotes Health  For Cows

Wrth i bobl gael eu hannog i gadw dau fetr ar wahân i atal COVID-19 rhag lledaenu, mae prosiect ymchwil iechyd anifeiliaid yn annog ei gyfranogwyr i roi cynnig ar fwy o bellter cymdeithasol mewn buchesi gwartheg er mwyn sicrhau’r iechyd gorau posibl i’w gwartheg dros y gaeaf.

Wrth i'r tywydd oeri, bydd meddyliau llawer o ffermwyr gwartheg yn troi at gartrefu eu stoc. Mae prosiect iechyd praidd a buches Hybu Cig Cymru (HCC) - ‘Stoc+’ – wedi cyhoeddi rhestr o bum awgrym i sicrhau bod gwartheg mewn cyflwr da, gan gynnwys darparu digon o le i fwydo.

Dywedodd arweinydd prosiect Stoc+, Dr. Rebekah Stuart, “Er mwyn yr ennillion pwysau byw gorau posibl o'ch gwartheg dros fisoedd y gaeaf, mae lle i fwydo yn bwysig, oni bai bod bwyd anifeiliaid ar gael yn ddi-dor. Rhaid bod digon o le i bob anifail fwydo ar yr un pryd, heb i anifeiliaid swil gael eu bwlio o’r neilltu. Y cyngor yw hefyd i ddidoli stoc ifanc wedi’u diddyfnu yn grwpiau o faint a phwysau tebyg.”

Yn ogystal â sicrhau lle i bob anifail i fwydo, yn ôl HCC y pedwar ffactor allweddol eraill i’w hystyried wrth droi da byw i mewn yw elfennau hybrin, canfod beichiogrwydd, osgoi cloffni, a gwirio am barasitiaid.

Esboniodd Rebekah, “Bydd profi gwaed gwartheg wrth eu cartrefu yn helpu i nodi unrhyw ddiffygion o ran elfennau hybrin, a bydd yn caniatáu digon o amser i gywiro hyn mewn pryd ar gyfer lloia yn y gwanwyn. Mae amser catrefu hefyd yn gyfle da i wirio beichiogrwydd gwartheg, a phenderfynu a ddylid eu gweini eto neu eu tynnu o’r fuches os yw’n ddiffrwyth.”

“Dylai trin a gwahanu unrhyw wartheg cloff ar yr adeg hon hefyd gael effaith gadarnhaol ar iechyd cyffredinol y fuches,” ychwanegodd; “Bydd gwirio am lyngyr yr iau a gwiddon, ac ymgynghori â milfeddygon ar y driniaeth orau, hefyd yn talu ar ei ganfed o ran cadw stoc yn y cyflwr gorau dros y gaeaf.”

Mae cyngor pellach ar gael ar wefan HCC: https://meatpromotion.wales/cy/industry-resources/adnoddau-cig-eidion

Mae Prosiect Stoc+ HCC yn gynllun 5-mlynedd, yn cwmpasu hyd at 500 o ffermwyr Cymreig, sy’n rhan o’r Rhaglen Datblygu Cig Coch, a gefnogir gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.