Lambing

Mae adroddiad diweddar am gadw ŵyn newydd-anedig yn fyw yn awgrymu bod cyflwr maethol y mamogiaid yn hanfodol i dymor ŵyna llwyddiannus. 

Mae canfyddiadau cychwynnol y prosiect ymchwil, ‘Development of an Integrated Neonatal Survival and Sustainable Antibiotic Plan’, wedi dangos bod cwrdd â gofynion protein mamogiaid yn y cyfnod cyn ŵyna yn arwain at gyfran uchel o albwmin yn eu gwaed.  Gwelwyd marwolaethau mewn ŵyn â lefelau isel o brotein, ac roedd y rhain yn tueddu i fod yn ŵyn mamogiaid â lefelau isel o albwmin yn y gwaed. 

Ffactor arall sy'n cyfrannu at hyn yw'r amrywiad yn y colostrwm y mae'r ŵyn hyn yn ei dderbyn - fel y dangosir pan fo’u cyfanswm protein yn cael ei fesur pan maen nhw rhwng 8 a 24 awr oed. Mae hyn yn dangos fod darparu’r maeth cywir i famogiaid cyn y tymor ŵyna yn allweddol o ran cadw’r ŵyn newydd-anedig yn fyw.

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn ariannu'r ymchwil hwn ar y cyd â'r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) a Quality Meat Scotland (QMS). Prifysgol Caeredin sy'n arwain y gwaith ac mae'r partneriaid yn cynnwys Prifysgol Lerpwl, Prifysgol Nottingham, Prifysgol Bangor a Synergy Farm Vets.

Nod y prosiect yw meincnodi, diffinio'r ffactorau risg a chynnig cynllun rheoli integredig i gadw mwy o ŵyn a lloi sugno newydd-anedig ym Mhrydain yn fyw ac yn iach a defnyddio llai o wrthfiotigau.  Mae’r gwaith hwn yn cael ei wneud mewn cydweithrediad â milfeddygon ac ymgynghorwyr yn y diwydiant.

Gallwch weld canlyniadau blwyddyn gyntaf y prosiect ymchwil ar wefan HCC: https://meatpromotion.wales/en/industry-resources/animal-health-and-welfare/research/neonatal-survival

“Mae colostrwm a hylendid yn hanfodol ar gyfer ŵyna llwyddiannus,” meddai Dr. Rebekah Stuart, y Swyddog Gweithredol dros Iechyd Diadelloedd a Buchesi yn HCC sy'n arwain  prosiect Stoc + HCC, sef un o dair rhan y Rhaglen Datblygu Cig Coch) (RMDP) sy’n cael ei hariannu am bum mlynedd gan Lywodraeth Gymru a’r Undeb Ewropeaidd.  

“Rhaid i ŵyn gael digon o  golostrwm o ansawdd da yn ystod oriau cyntaf eu bywyd. Mae hynny’n golygu fod rhaid i famogiaid gael diet sy’n ateb eu gofynion maeth yn ystod yr wythnosau olaf cyn ŵyna.”  

Fodd bynnag, mae Rebekah yn cynghori: “Efallai na fydd y bwyd gorau yn rhoi’r canlyniadau a ddymunir os nad oes gan famogiaid ddigon o le i fwydo. Os oes prinder lle, gallan nhw ymddwyn yn hierarchaidd ac mae hynny’n golygu nad yw rhai mamogiaid yn cael digon o gynnwys sych. Mae defaid yn adnabod eraill yn eu grŵp cymdeithasol ac mae'n well ganddyn nhw fod mewn grwpiau o lai na 50.  Os yw’r nifer yn fwy, mae’n well rhoi mwy o le fel bod grwpiau cymdeithasol yn gallu ffurfio, sy’n golygu llai o bwysau ar y defaid.”

Mae’r Rhaglen Datblygu Cig Coch yn cael ei hariannu gan  Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.