Yn yr hinsawdd sydd ohoni, mae defnyddwyr yn canolbwyntio fwyfwy ar effaith amgylcheddol eu bwyd.  Mae hyn yn her fawr ar hyn o bryd, sef sicrhau elw i ffermwyr Cymru wrth gynhyrchu cig coch cynaliadwy.

Mewn ymgais i gynnig atebion posibl, mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn cynnal dau ddigwyddiad  Ffermio Arloesol ar gyfer Dyfodol Cynaliadwy lle bydd ffermwyr blaengar ac ymchwilydd ifanc yn trafod yr heriau, a bydd HCC yn rhoi ei ymateb wrth iddo geisio mynd i'r afael â materion allweddol ar gyfer y dyfodol.

Cynhelir y cyntaf o'r ddau ddigwyddiad ar Gampws Glynllifon, Coleg Meirion-Dwyfor, ddydd Mawrth 4 Chwefror. Bydd yn dechrau am 18:30 a'r siaradwr gwadd yw Alwyn Phillips o Fferm Penygelli, Caernarfon. Mae data yn rhan hanfodol o ffermio Alwyn, sy’n gwneud y defnydd gorau posibl o raglenni arloesol i wella ei fusnes a’i wneud yn fwy proffidiol.

Cynhelir yr ail ddigwyddiad ar gampws Gelli Aur yng Ngholeg Sir Gâr ddydd Iau 6 Chwefror.  Bydd y cyfarfod hwn yn dechrau am 18:30 a’r siaradwr gwadd yw ffermwr o Sir Gaerfyrddin, Aled Picton Evans, sy’n rhedeg uned magu a phesgi gwartheg cig eidion ac sy’n canolbwyntio ar borfa. Mae Aled wedi datblygu ffyrdd arloesol o wneud y gorau o dir glas ar ei fferm, lle mae'n ceisio pesgi gwartheg o fuchesi llaeth.

Bydd un siaradwr yn annerch y naill gyfarfod a’r llall, sef yr ymchwilydd arobryn Non Williams sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar gyfer gradd PhD ar Y rheolaeth orau bosibl o dir pori’r ucheldir er budd economaidd ac amgylcheddol.  Mae’n gwneud hyn ym Mhrifysgol Bangor dan oruchwyliaeth Dr A. Prysor Williams a Dr James M. Gibbons. Y llynedd, enillodd Non y wobr am y poster gorau mewn cynhadledd Newid Hinsawdd a Da Byw yn Llundain.

Non Williams

“Mae cyfran helaeth o dir amaethyddol y Deyrnas Unedig yn cael ei adnabod fel ucheldir,” meddai Non. “Defnyddir y mwyafrif o’r tir hwn i gynhyrchu da byw ond yn aml mae’r borfa’n annigonol. Mae hyn, ynghyd â grymoedd y farchnad, yn golygu bod nifer y gwartheg yn yr ucheldiroedd yn gostwng." 

“Os bydd hyn yn parhau, gallem weld fygythiad i gynhyrchu cig eidion a lledaeniad planhigion goresgynnol. Gallai gwneud y borfa’n fwy cynhyrchiol a gwneud mwy o ddefnydd o laswellt olygu llawer o fanteision fel estyn y tymor pori, a thrwy hynny ddibynnu llai ar borthiant atodol a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr."

“Mae'r sector cig coch dan bwysau sylweddol i leihau’r effaith mae’n ei gael ar yr amgylchedd. Gallai canfyddiadau'r prosiect hwn fod yn berthnasol i'r her honno.”

Mae Doethuriaeth Non yn cael ei ariannu trwy gynllun Ysgoloriaeth Sgiliau’r Economi Gwybodaeth (KESS 2).  Mae’r KESS 2 yn fenter sgiliau lefel uwch Cymru gyfan a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran y sector Addysg Uwch yng Nghymru. Fe’i gyllidir yn rhannol gan raglen cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Mae HCC hefyd yn cydweithredu ar y prosiect. 

Mae gwybodaeth bellach am Ddoethuriaeth Non ar wefan HCC:
https://meatpromotion.wales/en/industry-resources/research-and-development/current-projects/optimised-management-of-upland-pasture-for-economic-and-environmental-benefits 

Mae croeso i unrhyw un ddod draw i Glynllifon neu Gelli Aur i glywed mwy am ymchwil Non. Hefyd, bydd HCC yn trafod y mater hollbwysig o sut gall ymchwil newydd helpu sector Cig Oen a Chig Eidion Cymru i wella fwyfwy un o’r pethau sydd mor bwysig i'r defnyddiwr modern, sef cynaliadwyedd.  

Yn ogystal, bydd y digwyddiadau’n tynnu sylw at y gwaith a wneir trwy'r Rhaglen Datblygu Cig Coch (RMDP) sy’n cael ei hariannu gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru –  Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, neu i gadw lle, cysylltwch â HCC ar 01970 625050 neu ebostiwch info@hybucig.cymru