Mae ymgyrchydd O Gymru sy'n angerddol dros fwyd wedi lansio ei Busnes ei hun i hyrwyddo a dathlu cynnyrch cyfoethog ac amrywiol Gogledd ddwyrain Cymru.

Syniad Trine Hughes, cadeirydd Bwyd Araf Gogledd Cymru a sylfaenydd ‘Slow Food Liverpool’, yw’r ‘Feeder’, a bydd yn ganolbwynt ar gyfer hyrwyddo cynnyrch a ryseitiau’r rhanbarth, wedi ei leoli mewn ysgubor hanesyddol yn Nyffryn Clwyd.  

Bydd digwyddiad arbennig ar gyfer y lansiad ar arbennig Llun 21 Hydref yn Rhewl ger Rhuthun yn Ysgubor Rhyd y Cilgwyn, sy’n dyddio o’r 16eg ganrif. Noson fydd hon o Fwyd Sbaenaidd wedi’i ddarparu gan Dr Beatriz Albo, sy’n cynhyrchu ystod arobryn o fwyd – Sabor de Amor (Blas Cariad) – yn Rhostyllen, ger Wrecsam.

Mae’r digwyddiad yn dathlu 30 mlynedd ers sefydlu’r mudiad Bwyd Araf (‘Slow Food’), – mudiad a sefydlwyd yn yr Eidal ond sydd bellach yn cynnwys 160 o wledydd ledled y byd.

Bydd Dr Albo, gwyddonydd ymchwil yn wreiddiol o Salamanca, yn coginio gwledd o baëla ac yn siarad â Trine am ei model busnes, – sef ymasiad o fwyd Sbaenaidd a Chymreig. Yn gynharach eleni, daeth y busnes a hi i sylw cenedlaethol ar y gyfres ‘Top of the Shop’ gyda’r cogydd enwog Tom Kerridge.

Meddai Trine, cyfreithiwr sy’n wreiddiol o Lerpwl sy’n byw yn Rhewl erbyn hyn: “Bydd y ‘Feeder’ wedi’i leoli yn Rhyd y Cilgwyn mewn ysgubor wedi’i haddasu lle byddwn ni’n gallu cynnal digwyddiadau, gweithdai, cyrsiau, arddangosiadau a dathliadau bwyd o Gymru.

“Mae hanes a threftadaeth ardal fel Gogledd Ddwyrain Cymru yn dylanwadu’n gryf ar y cynhyrchion a’r cynhyrchwyr, ac mae gennym ein hystod arbennig ac unigryw ein hunain o fwydydd, cnydau a ryseitiau.

“Fe welwyd hyn gydag Eirin Dinbych oedd bron a diflannu deng mlynedd yn ôl. Erbyn heddiw gellwch brynu coed i’w plannu yn yr ardd. Mae’n wir am Afal Enlli hefyd.

“Ffrwyth lleol arall sydd bron yn chwedlonol yw Eirin Mair Sir y Fflint. Rydym yn gobeithio cael tystiolaeth eu bod hwythau wedi goroesi, cyn gwneud ein rhan i’w dadeni. Bydd y ffrwythau yma i gyd yn cael eu cynnwys yn ein rhaglen ‘Ark of Taste’.

“Rhaid i ni warchod yr amrywogaethau hyn oherwydd eu bod yn rhan o dreftadaeth fwyd Gogledd Cymru, ac maen nhw mewn perygl o ddiflannu.”

Mae’r digwyddiad bwyd Sbaenaidd yn Rhewl yn rhan o Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru, – gŵyl 40 diwrnod fydd yn digwydd yn ystod yr hydref eleni i ddathlu’r amrywiaeth gwych o gynnyrch sydd ar gael yn y rhanbarth hwn o Gymru.

Dechreuodd y rhaglen ym mis Medi ac mae’n rhedeg trwy fis Hydref ac i fis Tachwedd, gyda dros 25 o ddigwyddiadau yn arddangos sut y gall ymwelwyr a thrigolion lleol brofi cyfoeth traddodiad coginio’r rhanbarth. Mae’r trefnwyr yn dweud bod gwefan Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru a’r cyfryngau cymdeithasol eisoes yn brysur dros ben.

Fe’i cefnogir gan yr asiantaeth adfywio gwledig Cadwyn Clwyd ynghyd ag AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy ac awdurdodau lleol Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam.

Daw’r arian o gronfa o bron i £8 miliwn o gyllid a weinyddir gan Cadwyn Clwyd o Gorwen o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020.

Fe’i hariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (CAEDG/EAFRD) a Llywodraeth Cymru fel rhan o gynllun chwe blynedd i adfywio cymunedau gwledig a’u heconomïau.

Bydd Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru yn cael ei gefnogi gan Cadwyn Clwyd am y ddwy flynedd gyntaf ond bwriedir ei sefydlu fel digwyddiad blynyddol a hunangynhaliol fydd yn cynnwys profiadau bwyta, teithiau cynhyrchu, arddangosiadau, cyfleoedd blasu, gweithdai a dosbarthiadau meistr. Bydd hefyd yn cynnwys y gwyliau bwyd sefydledig yn Llangollen, yr Wyddgrug a Wrecsam.

Dywedodd Emma Cornes, Cydlynydd Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru:

“Mae gan Ogledd Ddwyrain Cymru un o’r amrywiaethau cyfoethocaf o fwyd sydd i’w gael yn y DU a threftadaeth fwyd llawn cystal.

“P’un ai’r cig oen, cig eidion neu’r porc gwych, y pysgod o’r afonydd, y llynnoedd a’r arfordir neu’r ffrwythau a’r llysiau sy’n tyfu yn y rhanbarth, gan gynnwys haelioni hyfryd natur yn y gwrychoedd, mae hyn i gyd yn gynwysedig yn ein rhaglen ni.

 “Mae’r rhaglen o brofiadau unigryw sy’n seiliedig ar fwyd yn digwydd ledled y rhanbarth ac rydym am i gynifer o bobl â phosibl ddarganfod, profi a bwyta’r gorau o’r hyn sydd gan Ogledd Ddwyrain Cymru i’w gynnig.

“Mae’r digwyddiadau ar gael i’w harchebu’n fyw ar wefan Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru ac ar Eventbrite ac mae’r cyfryngau cymdeithasol yn brysur iawn.”

Ychwanegodd Trine, a ddechreuodd Slow Food Liverpool ddeng mlynedd yn ôl oherwydd bod y grŵp yr ymunodd â hi yn yr Wyddgrug yn rhy bell o’i chartref ar Lannau Merswy:

“Mae’r ‘Feeder’ yn ymwneud â’r weithred o anogaeth trwy roi bwyd, sy’n gymaint mwy na thanwydd. Mae’n dangos i rywun eich bod chi’n malio. Dyna yw hanfod y ‘Feeder’.

“Rwy’n frwd am addysg a bwyd. Dim ceisio bod yn nawddoglyd ydw’i, ond yn hytrach dwi’n gwahodd pobl i ddod gyda mi ar daith addysgol.

 “Tydi’n cynhyrchwyr ddim yma i wneud eu ffortiwn. Mae gan bob un ei stori, – boed yn draddodiad teuluol, neu’r awydd i warchod rhywbeth sy’n perthyn i dreftadaeth yr ardal.

“Nid mater o lenwi’ch bol â paëla yn unig yw ein digwyddiad, ond cyfle i glywed gan Beatriz sut y daeth hi yma i astudio a sut y dechreuodd goginio paëla a’r sawsiau arobryn hyn.”

I gael mwy o wybodaeth am y ‘Feeder’ neu ddigwyddiadau Bwyd Araf (‘Slow Food’), anfonwch e-bost at Trine ar trineslowfoodcymruwales@gmail.com

I gael mwy o wybodaeth am Blasu Gogledd Ddwyrain Cymru, yn cynnwys rhaglen o’r digwyddiadau a sut i archebu, ewch i www.tastenortheastwales.org