Cafodd ffermwyr o ddalgylchoedd afonydd Pelcomb Brook a Winterton Marsh fwynhau ymweliad addysgiadol i Waith Trin Dŵr Bolton Hill.

Mae Dŵr Cymru Welsh Water eisiau gweithio mewn partneriaeth â ffermwyr i wella safon dŵr yfed crai. Felly, wrth weithio ochr yn ochr â’r prosiect BRICs, er mwyn helpu i gyrraedd y nod, cafodd pob ffermwr o ddalgylchoedd afonydd Pelcomb Brook a Winterton Marsh wahoddiad i ymweld â Gwaith Trin Dŵr Bolton Hill.

Roedd staff gweithredol gwybodus yn tywys ffermwyr o amgylch y safle ac yn egluro’r gwahanol gamau yn y broses driniaeth o echdynnu dŵr crai hyd at ddŵr sydd wedi ei drin yn llawn ar gyfer ei ddarparu i ddefnyddwyr domestig a masnachol. Cafodd dealltwriaeth y mynychwyr o gemeg a ffiseg ei herio ond fe adawodd pawb yn fwy gwybodus a gyda gwell dealltwriaeth o sut y gall rhai arferion amaethyddol effeithio ar y broses driniaeth a’i wneud yn anoddach i droi dŵr o afonydd dŵr yfed yn ddŵr yfed perffaith.

Mae BRICS yn brosiect ymchwil sy’n gweithredu mewn modd arloesol i reoli adnoddau naturiol yn yr ardal, gan fod o fudd i’r cymunedau a’r busnesau o fewn y gymdogaeth.

Mae partneriaid y  prosiect yn cynnwys y gadwyn gyflenwi, rheolwyr tir, diwydiant, mudiadau cadwraeth, undebau ffermio, Dŵr Cymru, ffermydd cydweithredol, awdurdodau, Cyfoeth Naturiol Cymru a chymunedau’n cydweithio i ddatblygu gwytnwch ym musnes ffermydd. Ar yr un pryd, bydd y prosiect yn cyfrannu at ddatblygiad economaidd cynaliadwy.

Datblygwyd ac ariennir BRICS drwy’r Cynllun Rheoli Cynaliadwy sy’n rhan o Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.