“Roedd fy ngheg i’n dyfrio!” – dyma un o’r ymatebion i flas gwych Cig Oen Cymru gan ymwelwyr â Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanelwedd yr wythnos diwethaf.
Roedd y gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn sesiwn blasu i hyrwyddo menter ymchwil newydd gan Hybu Cig Cymru (HCC), sy’n gofyn barn 2,000 o gwsmeriaid; Prosiect Ansawdd Cig Oen Cymru.
“Dw i ddim yn credu y gallwch chi ei guro”; “Rwy'n ei hoffi’n fawr” a “Tyner a hyfryd iawn - ac mae'n dda gwybod ei fod yn gynaliadwy ac yn naturiol” oedd ychydig o'r llif o sylwadau ffafriol gan wirfoddolwyr yn y gynulleidfa a ymwelodd â stondin HCC i flasu Cig Oen Cymru PGI a sgwrsio am eu hoff doriadau cig coch gyda Swyddog Gweithredol Ansawdd Cig HCC, Dr. Eleri Thomas.
Bydd y cynllun yn ceisio asesu, datblygu a gwella ansawdd bwyta Cig Oen Cymru a sicrhau ei enw da rhyngwladol rhagorol i helpu ffermio Cymru i baratoi ar gyfer byd ar ôl Brexit. Bydd yn ymgysylltu â phob rhan o’r gadwyn gyflenwi, gan anelu at hybu elw’r fferm wrth sicrhau bod cynhyrchu cig coch yn y dyfodol yn cwrdd â galw defnyddiwr sy'n newid yn barhaus ac yn fwyfwy craff.
Fe’i cefnogir gan gronfa Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Rhoddodd Sharon Simpson o’r Drenewydd y sgôr uchaf i’w stêc cig oen a dywedodd “Dyma’r blas gorau, dwi wir ddim yn meddwl y gallwch chi ei guro. Rwy’n ei brynu ar gyfer prydau bwyd yn ystod yr wythnos ac ar gyfer rhost dydd Sul hefyd,” tra dywedodd Sandra Evans o Aberystwyth ei bod wrth ei bodd â’r blas a’i fod yn “dyner iawn.”
Ychwanegodd Huw Potter o Gaerdydd “Mae'n dyner ac mae ganddo wead hyfryd; mae’n sawrus iawn, heb fod yn blasu’n rhy gryf. Mae'n dda gwybod ei fod yn gynaliadwy ac yn naturiol.”
Tra dywedodd Rhian Dillon o Aberhonddu “Cyn gynted ag y gnoiais i mewn iddo roedd fy ngheg i’n dyfrio! Mae ganddo flas unigryw, heb fod yn frasterog - cynnyrch iach a moethus”
Yn dilyn y blasu, cafodd y gwirfoddolwyr yn y Ffair Aeaf gyfle i weld arddangosfa goginio Cig Oen Cymru gan Gerwyn Williams o Fetws y Coed, Cogydd Cymreig y Flwyddyn.
Bydd y sesiynau profi blas ffurfiol fydd yn rhan o’r prosiect, a reolir mewn modd gwyddonol, yn cael eu cynnal ym misoedd Ionawr a Chwefror yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac mae grŵp eang ac amrywiol o samplwyr yn cael eu recriwtio i sicrhau’r ystod ehangaf bosibl o gwsmeriaid posib.
“Cafodd stondin HCC yn y Ffair Aeaf ymateb gwych gan y cyhoedd a oedd wrth eu bodd â blas gwych Cig Oen Cymri cynaliadwy ac rydym yn edrych ymlaen at y cyntaf o’r sesiynau panel blas defnyddwyr yn y Flwyddyn Newydd,” meddai Dr. Thomas.
“Fodd bynnag, pwrpas y prosiect hwn yw sicrhau safle Cig Oen Cymru ar frig rhestrau siopa’r cyhoedd ac felly byddwn yn dysgu oddi wrthynt i gyd ac yn ceisio hysbysu cadwyn gyflenwi cig coch Cymru ynghylch sut y gallwn ei gwneud hyd yn oed yn fwy blasus yn y dyfodol.”