Piglets

Bydd gan y rhai sy’n cadw moch yng Nghymru gyfle dihafal i gael cyngor arbenigol mewn rhith-gynhadledd a gaiff ei chynnal yn ddiweddarach y mis hwn gan brosiect Menter Moch Cymru.

Cynhelir cynhadledd Menter Moch Cymru ar-lein yn rhad ac am ddim ddydd Mercher 27 Ionawr.

“Rydym wrth ein boddau i fod yn cael cynnig cystal cyfoeth o wybodaeth a chyngor arbenigol i gynhyrchwyr,” meddai Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru, Melanie Cargill.

“Ein nod oedd cynnig cymaint o wybodaeth ac amrywiaeth â phosibl, fel bod rhywbeth i blesio pawb, ac fe fuom yn lwcus i gael cynnull amrywiaeth mor eang o arbenigwyr ac ymgynghorwyr i rannu eu profiadau a’u barn.”

Yn y gynhadledd undydd, ceir cyfres o weminarau gan arbenigwyr ym meysydd rheoli cenfaint, cynhyrchu cig, marchnata, a mwy; ceir hefyd sesiynau un-i-un ar bynciau penodol.

Meddai Melanie Cargill, “Gobeithiwn y bydd cymaint o gynhyrchwyr â phosibl yn ymuno â’r gynhadledd – gallant ymuno am y diwrnod cyfan, neu ymuno ar gyfer y sesiynau hynny sydd o’r diddordeb pennaf iddyn nhw. Bydd y sesiynau un-i-un, y mae’n rhaid archebu lle ar eu cyfer ymlaen llaw – yn cwmpasu sgyrsiau 25 munud gydag ystod eang o arbenigwyr yn ymdrin ag amrywiaeth o feysydd fel marchnata, magu yn yr awyr agored, prosesu ar y fferm, siediau moch, ac iechyd a lles y genfaint.”

Ymysg y rhai a fydd yn cyflwyno, bydd y dadansoddwr diwydiant annibynnol, Mick Sloyan. Mae ganddo dros 40 mlynedd o brofiad o weithio yn y diwydiant, ac fe fydd yn rhoi trosolwg o’r sector a’r rhagolygon ar gyfer 2021. 

Ar yr agenda bydd pynciau megis dylanwad Brexit ar y farchnad fewnol, effaith Clwy Affricanaidd y Moch a Covid-19, costau porthiant a chynaliadwyedd premiymau ar brisiau.

Mick Sloyan

Mae Mick yn egluro; "Mae deall beth sy’n digwydd yn y sector moch mor bwysig ag erioed, ynghyd â’r rhagfynegiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ni welwyd dim byd tebyg i’r 18 mis diwethaf o’r blaen, ac mae’n ymddangos mai ansicr fydd 2021 hefyd.”

“Bydd y cyflwyniad a’r drafodaeth yn helpu cynhyrchwyr moch i ddeall y grymoedd marchnad a fydd yn siapio’u busnes fel y gallant ymdopi mewn blwyddyn a allai fod yn gythryblus. Byddaf yn ymdrin â’r cyfleoedd a’r heriau y bydd ffermwyr moch Cymru yn debygol o’u hwynebu yn y 12 mis nesaf ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr i ateb y cwestiynau a fydd gan ffermwyr.”

Bydd Sophie Colquhoun yn cynnig trafodaeth am dueddiadau’r farchnad a phrynwyr, heddiw ac at y dyfodol. Yn rhan o dîm Brookdale Consulting sy’n rheoli rhaglen Mewnwelediad Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru, mae Sophie yn Gyfarwyddwr Category Insight ac yn gyn-Gyfarwyddwr Marchnata Grŵp gyda Tulip Foods. 

Bydd ei chyflwyniad yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y farchnad gan Kantar Worldpanel a The Foodpeople, yn ogystal â’r prif benawdau o ymchwil ddiweddaraf ‘Gwerth Cymreictod’ Llywodraeth Cymru ac effaith ‘Cymreictod’ ar siopwyr.

Cwm_Farm_Charcuterie

Mae’r gwerthwyr charcuterie o Gymru, sydd wedi ennill gwobrau amryfal – yn cynnwys teitl ‘Menter Farchnata’r Flwyddyn’ yn y Gwobrau Moch Cenedlaethol yn 2020 – Cwm Farm Charcuterie Products, yn gwerthu eu cynnyrch ar draws y byd. 

Bydd y perchennog, Ruth Davies, yn disgrifio taith y busnes ‘o’r genfaint i hamperi’ a mwy, gyda chyngor ynghylch datblygu busnes llwyddiannus a defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i dynnu sylw at eich brand.

Caiff y ffactorau sy’n effeithio ar ansawdd bwyta porc a sut gall y diwydiant moch fodloni disgwyliadau prynwyr eu trafod gan y gwyddonydd cig adnabyddus Caroline Mitchell. 

Yn berchennog ac yn gyfarwyddwr y cwmni ymgynghorol ar reoli ansawdd bwyd, FQM Global, bydd Caroline yn mynd â ni drwy’r gadwyn gyflenwi, gan ganolbwyntio’n arbennig ar yr hyn y gellir ei wneud ar y fferm i sicrhau bod cynhyrchion yn bodloni gofynion prynwyr o ran y profiad bwyta.

Caroline Mitchell

Yn ôl Caroline, “Mae’r arbedion a’r elw a wnawn ar y fferm drwy ddangosyddion perfformiad fel Cyfraddau Pesgi Dyddiol, Cyfradd Trosi Bwyd a Kg a werthwyd/hwch/blwyddyn, mewn gwirionedd, yn ddim ond doleri pren yn symud rhwng y diwydiannau cysylltiedig. Dim ond gan y prynwr y daw unrhyw arian newydd yn y gadwyn gyflenwi. Y prynwr yw’r allwedd i gynaliadwyedd y diwydiant porc.”

Mae Luke Starkey, a gyrhaeddodd rownd derfynol Ffermwr Moch Ifanc y Flwyddyn 2020, wedi troi ei hobi yn un o’r systemau porchell-i-besgi mwyaf yng Nghymru. 

Bydd yn mynd â’r cynadleddwyr ar daith rithiol o’i fferm yn Sir Benfro, ble mae wedi trosi hen adeiladau’r fuches laeth yn siediau ar gyfer 180 o hychod croes Gwyn Mawr/Landrace. Gan weithio ar gylchred gynhyrchu dair wythnos o hyd, ei nod yw cynyddu maint y genfaint i 350 o hychod.

Caiff y cynadleddwyr hefyd glywed yn uniongyrchol gan y ffermwr moch Richard Mellor, sy’n cadw uned awyr agored 920 hwch yn Norfolk ac a enillodd y Wobr Cynhyrchiant y Genfaint yn ddiweddar yn y Gwobrau Moch Cenedlaethol. Mae Richard wedi cyflawni ffigurau syfrdanol, ymhell y tu hwnt i gyfartaledd y 10% uchaf ar systemau awyr agored, a bydd yn canolbwyntio ar sut y manteisiodd ar arloesi i wella perfformiad ei genfaint.

Gall y cynadleddwyr sy’n achub ar y cyfle i fynychu sesiynau un-i-un drafod meysydd penodol i’w ffermydd a’u busnesau eu hunain gyda nifer o arbenigwyr, gan gynnwys yr arbenigwr moch adnabyddus, Bob Stevenson.

Meddai Bob: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y sgyrsiau un-i-un. Rwy’n sicr y gallaf helpu i ateb eich cwestiynau am reoli ac iechyd. Os hoffai’r rhai sy’n cadw moch ddysgu am y rhaglenni rhag llyngyr gorau, torllwythi bychain neu besychu mewn moch sy’n tyfu, yna holwch yn ystod y sgwrs un-i-un am ddim.” 

I gael rhagor o wybodaeth ac i gadw lle ymlaen llaw, ewch i www.mentermochcymru.co.uk neu ffoniwch 07494 478 652.

Ariennir Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.