Bron i wythnos ers i gyfyngiadau cenedlaethol y cyfnod atal byr ddod i rym yng Nghymru, mae’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt wedi diolch heddiw i'r gwirfoddolwyr a'r grwpiau cymunedol sydd wedi bod yn cynnig gobaith a chymorth yn eu hardaloedd lleol, yn ddiweddar ac yn ystod y cyfyngiadau cenedlaethol blaenorol.

Dywedodd Jane Hutt:

Drwy gydol y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau yn gynharach eleni, bu gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol a sefydliadau'r trydydd sector yn gweithio’n eithriadol o galed i helpu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein plith.

Mae'n wych clywed am yr amrywiol ffyrdd dyfeisgar a chreadigol y mae cymunedau wedi bod yn helpu ei gilydd. Gall ymdrech ar y cyd arwain at ganlyniadau hyfryd, a gall gwirfoddoli gael effaith anhygoel a buddiol ar wirfoddolwyr a’r rhai sy'n cael eu cefnogi. Diolch i'r holl bobl cymwynasgar sydd wedi bod yn gweithio yn ein cymunedau, ledled Cymru. Gobeithio y byddwch yn parhau i wneud beth bynnag a allwch yn eich ardal leol – mae'r cyfan yn gwneud gwahaniaeth.

Yn ystod y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau, bu Sara Wall o Magwyr, Sir Fynwy yn cydlynu’r gwaith o greu sgrybs ym Magwyr a Gwndy.

Ymunodd dros 100 o wirfoddolwyr, rhwng 6 a 92 oed, yn yr ymdrech. Roedd y gwaith yn amrywio o gasglu a didoli deunyddiau, i dorri patrymau a gwnïo botymau, neu wneud galwadau ffôn i weld faint o sgrybs oedd eu hangen ar amrywiol ganolfannau, a gyrwyr i’w cludo ar ôl eu cwblhau.

Rhoddwyd gwisgoedd ac offer pwrpasol i ysbytai, hosbisau, carchardai, meddygfeydd, therapyddion iechyd galwedigaethol, cartrefi preswyl pobl ifanc a chartrefi gofal, ymysg eraill.

Creodd y grŵp dros 500 set o ddillad sgrybs, 1200+ o fagiau golchi dillad, ac 800 o amddiffynwyr clust.

Dywedodd Sara Wall:

Roedd yr ysbryd cymunedol yn gynharach eleni yn anhygoel. Wrth ddechrau ar y gwaith, ein bwriad oedd helpu i ddarparu sgrybs yn unig. Ond wrth i bethau ddatblygu daeth yn amlwg ein bod yn gwneud mwy na hynny: roeddem yn helpu ein hunain a'n gilydd gydag ymdeimlad o bwrpas a chymuned.

Fe wnes i ffrindiau go iawn. I rai o'r gwirfoddolwyr fu’n gwnïo, y gyrrwr cludo nwyddau yn chwifio arnyn nhw drwy'r ffenestr oedd yr unig gysylltiad â pherson arall drwy'r dydd. Mae gwirfoddoli nid yn unig yn dod â budd gwirioneddol i'n cymuned, mae hefyd yn bwysig i'n hiechyd a'n hapusrwydd ein hunain. Yn ogystal â rhoi ymdeimlad o reolaeth inni, mae’n gwneud i ni deimlo ein bod yn rhan o rywbeth mwy.

Aeth y gwirfoddolwyr lleol ati i wneud gwyrthiau, gan roi gobaith a chymorth lle'r oedd angen, a dangos i'n harwyr ar y rheng flaen fod eu cymuned yn sefyll yn gadarn y tu ôl iddyn nhw. Mewn cyfnod o dywyllwch ac ofn, roedd yr ysbryd cymunedol yn disgleirio. Diolch i'n holl gynorthwywyr – rydych chi’n anhygoel.

Os oes unrhyw un yn teimlo'n rhwystredig ac angen gwaith defnyddiol i'w wneud, mae cyfoeth o waith gwirfoddol y gallwch ei wneud ar-lein ac all-lein. Mae grwpiau gwirfoddol lleol yn cadw trefn ar y gwaith sydd angen ei wneud; gallwch ymuno yn yr ymdrechion i gadw mewn cysylltiad â'r rhai sy’n ynysig ac yn agored i niwed, ac mae gwaith crefft gwirfoddol hefyd yn digwydd ar-lein. Mae llawer mwy y gellir ei wneud, dim ond i chi roi cynnig arni gyda meddwl agored a brwdfrydedd.

Dyfarnwyd cyllid i ganolfan Gymunedol Twyn, Twynyrodyn, ger canol tref Merthyr Tudful, drwy Gronfa Argyfwng Sector Gwirfoddol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Louise Goodman, cydlynydd prosiect y ganolfan:

Fe wnaethom ni ddarparu pecynnau gofal a phrydau poeth i'r rhai a oedd yn cysgodi, a phobl agored i niwed a phobl oedrannus yn y gymuned. Fe wnaethom ni gasglu presgripsiynau, darparu gwasanaeth gwrando dros y ffôn a fideo, estyn llaw i'r rhai unig, a gwneud yn siŵr ein bod yn helpu cynifer o bobl â phosibl.

Mae llawer o bobl yn y gymuned wedi byw yma ers i'r tai gael eu hadeiladu yn y 1960au. Rydym yn gymuned o tua 7000 o bobl, gyda thua thraean o dan 15 oed neu dros 65 oed. Roeddem am gefnogi'r gymuned, tynnu'r pwysau oddi ar wasanaethau eraill, a sicrhau ein bod yma i bobl droi atom ar adeg pan oedd angen help arnynt.

Diolch i’r cyllid a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, roedd modd i ni ddiweddaru ein cyfarpar i gyrraedd at y gymuned yn fwy effeithlon yn ystod y cyfyngiadau, a gweithredu fel canolfan ymateb brys. O ganlyniad, llwyddom i wneud y canlynol:

  • darparu dros 270 o barseli wythnosol o fwyd/nwyddau cartref, gan gynnwys cynhyrchion glanhau, pethau ymolchi, ffrwythau, llysiau, grawnfwydydd, llaeth, cig, sudd a bara, i aelwydydd o rhwng 1-4 o bobl
  • cysylltu â nifer o fferyllfeydd lleol i gasglu presgripsiynau i'r rhai a oedd yn cysgodi
  • creu llyfryn gwybodaeth a gweithgareddau i oedolion a roddwyd i gannoedd o aelwydydd
  • darparu dolenni wythnosol i sesiynau ymarfer corff byw ac wedi’u recordio ar-lein, a ryseitiau bwyta'n iach gyda chymorth dietegydd GIG lleol
  • darparu (ar ei anterth) 182 o brydau poeth bob dydd i bobl oedrannus ac agored i niwed (dros 900 o brydau bwyd yr wythnos)
  • recriwtio gwirfoddolwyr i gyflenwi nwyddau i'r gymuned
  • ateb cannoedd o alwadau yr wythnos gan gymdogion pryderus a phobl agored i niwed yn dioddef myrdd o gyflyrau
  • cyfeirio pobl at sefydliadau eraill sy'n gweithredu yn y fwrdeistref a thu hwnt i gael help gydag ymholiadau penodol
  • gweithio gyda sefydliadau i gysylltu pobl â chyrsiau ar-lein am ddim
  • creu llyfryn gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc y gymuned; cynnal sesiynau sgwrsio ar-lein i bobl ifanc drwy zoom; creu fideos gwyddoniaeth; anfon pecynnau gweithgareddau rheolaidd a oedd yn cynnwys hadau i'w plannu, bagiau pobi, offer lliwio a chrefft, pecynnau gofal personol ac ati

Rydyn ni’n gwybod bod ein gwaith wedi cael effaith enfawr ar y gymuned. Fe wnaethom ni leddfu'r baich ar fferyllfeydd. Fe wnaeth ein negeseuon ffitrwydd a bwyta'n iach ar-lein helpu pobl i gadw'n heini ac yn egnïol, a daeth ein cymuned yn agosach nag erioed, gyda chymdogion yn helpu ac yn cyfeirio pobl leol at gymorth, gan sicrhau nad oedd neb yn mynd heb unrhyw beth, ble bynnag yr oeddent yn byw neu beth bynnag oedd eu hamgylchiadau. Roeddem yn annog pobl i ddysgu pethau newydd, gan gynnwys ymwybyddiaeth ofalgar, ar-lein a hefyd drwy ein llyfryn gweithgareddau ar gyfer y rhai heb y rhyngrwyd.

Mae'r adborth a gawsom gan y gymuned wedi ein helpu i deilwra gweithgareddau yn y dyfodol i ddiwallu anghenion cynifer o bobl â phosibl. Mae wedi bod yn hynod o emosiynol cael bod yn rhan o'r grŵp cymorth cymunedol hwn. Mae clywed rhywun yn dweud eich bod yn codi eu hysbryd am eich bod chi’n meddwl amdanyn nhw yn gwneud pob eiliad werth chweil.

Ychwanegodd Jane Hutt:

Gobeithio y byddwch chi’n parhau i gefnogi eich cymunedau drwy wirfoddoli, yn y ffordd orau i chi. Cofiwch gadw'n ddiogel, aros yn lleol, a dilyn canllawiau Coronafeirws Llywodraeth Cymru. Diolch i chi i gyd am eich haelioni a’ch caredigrwydd. Gyda'n gilydd, gallwn ddiogelu Cymru.