Ydych chi’n gweithio yn y sector cig coch?
Ydych chi eisiau gwella eich busnes, teithio dramor i ymweld â chynhyrchwyr a dysgu mwy am y diwydiant yn fyd-eang?
Os ydych chi wedi ateb y cwestiwn hwn yn gadarnhaol, beth am fanteisio ar y cyfle hwn i wneud cais am ysgoloriaeth gwerth £3,000 gan Hybu Cig Cymru (HCC).
Croesewir ceisiadau gan unigolion o unrhyw oedran i astudio pwnc penodol yn y sector cig coch.
Mae croeso i unrhyw un sy’n ymwneud â’r sector cig coch yng Nghymru ymgeisio, boed fel ffermwr, cigydd, ymchwilydd ac unrhyw un sy’n gweithio yn y diwydiant mewn swydd wahanol yng Nghymru.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw dydd Llun 17 Mehefin 2019.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan HCC.