Bydd y prosiect yn ymateb mewn dull arloesol i anghenion lleol o safbwynt y Gymraeg, gan ddefnyddio treftadaeth ieithyddol a diwylliant fel modd o gefnogi a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg. Bydd hefyd yn ymateb yn strategol i bolisi iaith y Cyngor Sir a Siarter Iaith Sir Gâr. Byddwn yn edrych i ddefnyddio Siarter Iaith Sir Gâr fel dull i roi cyfle i blant y sir ddatblygu sgiliau, cynyddu ymwybyddiaeth ieithyddol a lleol a cymryd rhan mewn gweithgareddau cyffrous a ffres. Mae gweithredu’r Siarter Iaith yn arloesol yn Sir Gâr a’i nod ydy cynyddu defnydd cymdeithasol plant o’r Gymraeg gan ysbrydoli ein plant a’n pobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau. Un o brif hanfodion y Siarter Iaith yw casglu data manwl ar arferion ieithyddol disgyblion ysgolion cynradd y sir gan roi darlun o’r sefyllfa ar lefel feicro ar draws y sir.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£45,577
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Sir Gaerfyrddin
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 1
- Mesur:
-
19.2
Cyswllt:
- Enw:
- Aled Nicholas
- Rhif Ffôn:
-
01267 224496
- Cyfeiriad e-bost:
- ANicholas@carmarthenshire.gov.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts