Mae'r ffenestri Datgan Diddordeb bellach ar agor tan 10 May 2019
Grantiau bach Glastir (tirwedd a pheillwyr)
Mae rhaglen gwaith cyfalaf Grantiau Bach Glastir ar gael i fusnesau ffermio ar draws Cymru er mwyn cynnal prosiectau fydd yn helpu i wella a chynnal nodweddion tirwedd traddodiadol, a darparu cysylltiad gyda chynefin pryfed peillio.
Bydd eitemau Gwaith Cyfalaf yn cynnwys ‘Prif’ Waith a Gwaith ‘Ategol’. Gyda’i gilydd, maen nhw’n ffurfio ‘Prosiect’.
Mae’r Thema Tirwedd a Pheillwyr yn cynnig Gwaith Cyfalaf a ddewiswyd am eu bod yn dod â budd bras a chyffredinol i’r amgylchedd a’u gallu i wireddu uchelgeisiau
Llywodraeth Cymru.
Waith Cyfalaf Canllaw Technelog Tirwedd a Pheillwyr.
Creu Coetir Glastir (GWC)
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i blannu mwy o goed yng Nghymru trwy GWC er mwyn sicrhau amrywiaeth eang o fanteision, i:-
- Cysgod i stoc ac adeiladau adeg tywydd mawr
- Rheoli symudiadau da byw trwy ffensio a phlannu mannau anhygyrch fel llethrau serth
- Tyfu cyflenwad cynaliadwy o bren a choed tân e.e. ar gyfer adeiladau a ffensys
- Creu cynefinoedd natur
- Lleihau’r perygl o lifogydd ym mhen isa afonydd a rhwystro pridd rhag cael ei olchi i gyrsiau dŵr
- Sgrinio llygredd sŵn e.e. o ffyrdd a rheilffyrdd
Adfer Coetir Glastir
Mae Adfer Coetir Glastir yn golygu ymrwymiad o 10 mlynedd a bwriad cynllun Coetir Glastir yw cyflawni'r nodau amgylcheddol a ganlyn:
- Cyfrannu at wrthdroi'r dirywiad ym mioamrywiaeth frodorol Cymru
- Cynyddu naturioldeb Coetir Hynafol sydd wedi cael ei blannu yn unol a strategaeth Coetiroedd i Cymru.
- Lleihau allyriadau Carbon a Nwyon Tŷ Gwydr.
- Ymaddasu i newid yn yr hinsawdd a meithrin mwy o gydnerthnedd ar ffermydd ac mewn busnesau coedwigo.
- Rheoli ein hadnoddau dŵr i wella ansawdd dŵr a lleihau'r perygl o lifogydd.
- Cyfrannu at gynaliadwyedd economaidd ffermydd, coedwigoedd a'r gymuned wledig ehangach.
- Amddiffyn y tirwedd a'r amgylchedd hanesyddol gan wella mynediad ar yr un pryd.