Ymunwch â Cyswllt Ffermio ar fferm Gwastadanas ar 12 Awst 2019, ble mae Bedwyr Jones a’i deulu wedi bod yn astudio effeithlonrwydd ei fuches fagu Aberdeen Angus.

Bydd Rhidian Jones o 5agri sydd wedi bod yn rhan o’r posiect yn bresennol i drafod;

  • Pwysigrwydd astudio effeithlonrwydd eich buches
  • Gosod targedau, a sut i’w cyflawni
  • Sut i waredu BVD o fewn eich buches

Bydd cerdded y caeau yn rhan o’r digwyddiad i weld y fuches felly bydd angen esgidiau addas arnoch. 

Bydd lluniaeth ar gael felly mae archebu lle yn hanfodol. 

Mae dyddiad a lleoliad y digwyddiad fel a ganlyn:

Gwastadanas, Caernarfon, Gwynedd, LL55 4NW

Am rhagor o wybodaeth neu i archebu eich lle, cysylltwch â Gwion Parry – 07960261226

Gwion.parry@menterabusnes.co.uk

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.