Datblygwr Prosiect Pobl Hŷn

Bwriada'r gymdeithas gyflogi Datblygwr Prosiect i ymchwilio i'r angen am gyfleusterau ar gyfer pobl hŷn yn y gymuned leol, yn cynnwys clybiau cinio, dosbarthiadau iechyd a lles, cyfleoedd gwirfoddoli ac i weithio gyda Chanolfan Gofal Dydd Lee Davies ar y safle i ehangu'r ddarpariaeth o bosibl. Mae'r Ganolfan Gofal Dydd ar hyn o bryd yn cael ei gweithredu gan Gyngor Sir Penfro. Hoffai'r gymdeithas hefyd ymchwilio i ddichonoldeb gweithredu'r cyfleuster os bydd yr awdurdod lleol yn terfynu cyllid mewn toriadau cyllideb yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd mae'r gymdeithas yn chwilio am gyllid i weithredu system gyfathrebu a rhwydwaith ddiwifr newydd yng Nghanolfan Gymunedol Bloomfield House, ac fe hoffai archwilio sut y gallai hyn fod yn fuddiol i drigolion hŷn lleol.

Bydd y Datblygwr Prosiect yn cynhyrchu adroddiad dichonoldeb a chynllun busnes ar gyfer y gymdeithas sy'n ystyried defnyddwyr cyfredol ac yn y dyfodol a chapasiti yn y ganolfan na ddefnyddir ar hyn o bryd. Bydd angen iddynt drefn cyfres o 4 digwyddiad yn Bloomfield yn ystod y prosiect i gasglu data gan drigolion lleol a fydd yn gorffen gydag adroddiad gwerthuso a chynllun busnes. Mae hefyd yn ofynnol iddynt ymgysylltu gyda 12 o wirfoddolwyr yn ystod y prosiect.
 

Manylion y prosiect

Swm cyllido:
£14,900
Ffynhonnell cyllid:
Cronfa datblygu lleol LEADER
Ardal:
Sir Benfro
Cwblhau:
Thema:
3
Mesur:
19.2

Cyswllt:

Enw:
Janine Perkins
Rhif Ffôn:
01834 860293
Email project contact
Gwefan y prosiect:
http://www.bloomfieldcommunitycentre.co.uk

Project Area Contacts:

Need to find a local access group or lead body for an area?

Please have a look at our project contact map.

Find area contacts