Busnes ffermio teuluol trydydd cenhedlaeth yw Upper Haythog Farm. Wedi'i leoli ym mhentref Spittal, bum milltir i'r gogledd o Hwlffordd yn Sir Benfro, mae wedi bod yn gartref i'r teulu Scale ers 1946. Mae wedi bod yn fferm draddodiadol gymysg erioed gyda mentrau'n cynnwys defaid, grawnfwydydd, tatws a thyrcwn. Mae'r fferm wedi'i rhedeg fel uned âr yn bennaf, gan gyfuno grawnfwydydd a thatws, gyda'r defaid yn cael eu cyfyngu i dir a ystyrid yn anaddas i'w aredig.
Tad a mab - Peter and Robert Scale - sy'n rhedeg y busnes ar hyn o bryd. Mae gan Robert deulu ifanc ac mae am sicrhau dyfodol cynaliadwy i'w deulu yn wyneb marchnadoedd anwadal a newidiadau i'r System Taliad Sylfaenol.
Mae'r buddsoddiadau canlynol a gynigir yn rhai ar weithgareddau ar y fferm sy'n angenrheidiol er mwyn cyflwyno cynnyrch y fferm (tatws) i'r pwynt gwerthu cyntaf. Mae hyn yn unol â meini prawf cymhwysedd y Cynulliad ac enghreifftiau a roddir fel: paratoi cynhyrchion garddwriaethol ar y fferm cyn eu gwerthu i gyfanwerthwr.
- Storfa amgylchedd wedi'i reoli £70,000 Blwyddyn 1 – ehangu cynhyrchion tatws
- Uned oeri a gosod £45,000 Blwyddyn 2
- Cratiau storio tatws £56,000 Blwyddyn 2
- Llawr a buarth concrid £15,000 Blwyddyn 1
- Fforch godi £25,000 Blwyddyn 2
- Cynaeafu dŵr glaw £20,000 Blwyddyn 3 – dŵr ar gyfer anifeiliaid a dyfrhau
- Dril hadau crafu Einbock £4,000 Blwyddyn 1 – troi tir gwael i ail-hadu
- 50,000 o baneli solar kwh £60,000 Blwyddyn 3 - Bydd paneli PV solar yn cynhyrchu rhywfaint o ofyniad ynni'r fferm ac yn gwella ei chymwysterau gwyrdd.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£211,183
- Ffynhonnell cyllid:
-
Grant Cynhyrchu Cynaliadwy
- Ardal:
-
Sir Benfro
- Cwblhau:
-
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts