Er mwyn ehangu'r busnes, y nod yw creu gofod amlswyddogaethol - adeilad y Pafiliwn - ger yr adeilad presennol.
Bydd gan yr adeilad newydd olygfeydd dros y glaswelltir agored hyd at yr arfordir cyfagos a bydd yn cynnwys Wi-Fi, ystafell hamdden a brecwast (bydd brecwast ar gael fel opsiwn) â soffas er mwyn cynnig ardal hamdden drwy'r dydd a bar trwyddedig gyda'r nos, lle y gellir prynu diodydd a byrbrydau ysgafn.
Mae trydydd partïon hefyd yn awyddus i ddefnyddio'r cyfleuster hwn i gynnal sesiynau pilates, ioga, wythnosau artistiaid, perfformiadau ac arlwyo ar gyfer digwyddiadau bach.
Bydd yr adeilad newydd yn cynnwys cegin fach wedi'i dylunio fel y gall arlwywyr o'r tu allan gysylltu â'r cyflenwad trydan er mwyn darparu ar gyfer digwyddiadau o'r fath. Gall grwpiau sy'n awyddus i archebu'r safle cyfan hefyd ddefnyddio'r gegin hon.
Bydd yr adeilad newydd hefyd yn cynnwys ystafell fach ar gyfer triniaethau tylino a therapïau eraill y byddai gwesteion yn gallu eu harchebu ar gais. Bwriedir darparu sawna casgenni pren yn yr awyr agored i ddau berson hefyd er mwyn ategu'r ystafell ar gyfer triniaethau. Bydd hyn, ynghyd â'r cyrsiau pilates/ioga, yn ehangu'r busnes i'r farchnad gwyliau iechyd/sba.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£20,000
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa Fusnes Micro Bychan (MSBF)
- Ardal:
-
Bro Morgannwg
- Cwblhau:
-
Cyswllt:
- Enw:
- Paula Warren
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts