"Mae Fforest Cwmcarn yn darparu llwybr hardd saith milltir o hyd drwy 1400 hectar o dir â golygfeydd dros Aber Hafren, gan gynnig nifer o weithgareddau awyr agored o lwybrau beicio mynydd ardderchog (pedwar0; llwybrau cerdded; llety ar ffurf carafan, pod a safleoedd gwersylla; llyn; a Chanolfan Ymwelwyr yn darparu gwybodaeth, lluniaeth a rhoddion. Fodd bynnag, mae nifer yr ymwelwyr wedi gostwng gan fod ardal Forest Drive Fforest Cwmcarn wedi cau er mwyn cynnal gwaith parhaus i dorri coed llarwydd heintiedig (disgwylir y bydd y gwaith hwn yn mynd rhagddo tan 2019) ac o ganlyniad, bu'n rhaid cau nifer o lwybrau cerdded a beicio yn y fforest. Fodd bynnag, mae'r gwaith hwn i dorri coed hefyd yn cynnig cyfleoedd i ailasesu'r profiad i ymwelwyr ac i ystyried posibiliadau ar gyfer gweithgareddau amgen ac i uwchraddio cyfleusterau.
Felly nod y prosiect yw:
• Ehangu llwybrau beicio - gan ddarparu 3km o lwybrau newydd
• Gwella'r llwybrau cerdded presennol - uwchraddio llwybrau troed gan osod arwyddion newydd ar hyd pob rhan o'r llwybrau, gan gynnwys marciau ffyrdd a deunydd dehongli mewn lleoliadau/mannau o ddiddordeb allweddol
• Ardaloedd croesawu/cyrraedd newydd yn y prif faes parcio - gan greu naws am le wrth gyrraedd a chan gynnwys wal carreg sych; arwyddion, deunydd dehongli a gwaith celf; gwaith tirlunio meddal."
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£128,000
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS)
- Ardal:
-
Caerffili
- Cwblhau:
-
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts