Er mwyn dathlu Llwybr Arfordir Cymru yn ystod Blwyddyn y Môr, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu comisiynu gwaith celf a fydd yn dal dychymyg y cyhoedd, gan fframio ein tirlun eiconig a chadarnhau statws y llwybr fel prif lwybr cerdded Cymru. Bydd y rhan y mae'r llwybr yn ei chwarae wrth gysylltu cymunedau a denu ymwelwyr, gan arwain at well gwydnwch cymdeithasol ac economaidd, yn greiddiol i'r comisiwn hwn. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnig y dylid creu'r gwaith celf a'i osod ar bwynt canol y llwybr ym mhentref Ceinewydd yng Ngheredigion. Mae'r lleoliad hwn yn briodol gan ei fod yn gosod maint a graddfa Llwybr Arfordir Cymru yn eu cyd-destun. Gallwn weld naratif yn datblygu yn seiliedig ar ein cydberthynas â'r arfordir a'r llwybrau a'r ffyrdd sy'n igam-ogamu ar ei draws, gan gysylltu pobl a chymunedau.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£32,000
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cymorth Buddsoddi mewn Amwynderau Twristiaeth (TAIS)
- Ardal:
-
Ceredigion
- Cwblhau:
-
Cyswllt:
- Enw:
- Joe Roberts
- Cyfeiriad e-bost:
- joseph.roberts@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts