- Lleoliad:
-
Prosiectau Cydweithredu Cymru
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£4061.00
Disgrifiad o'r prosiect;
Bydd y prosiect yn cynnig pecyn o gyfleoedd hyfforddi gan ddefnyddio dulliau arloesol ar agweddau ar ddehongli treftadaeth i grwpiau treftadaeth a chymunedol ar draws Gogledd-ddwyrain Cymru, gan helpu grwpiau i gofnodi eu treftadaeth mewn ffordd ddeinamig.
Beth fydd y prosiect yn ei gyflawni?
Bydd y prosiect hwn wedi treialu hyfforddiant ar gyfer sgiliau treftadaeth arloesol fydd wedi helpu i ddatblygu hunaniaeth leol a naws am le mewn cymunedau gwledig. Bydd hyn yn helpu'r grwpiau/cymunedau treftadaeth ddatblygu ystod o ddeunydd digidol a thrwy hynny helpu i gynnwys mwy o bobl a'u gwneud yn ymwybodol o'r dreftadaeth gyfoethog sydd gan eu hardal leol.
Pwy ddylai elwa ar y prosiect?
Dros 50 o grwpiau treftadaeth/cymunedol ar draws Gogledd-ddwyrain Cymru
Beth oedd canlyniad y prosiect?
- Cynhaliwyd 6 cwrs hyfforddi gan Fforwm Treftadaeth Gogledd-ddwyrain Cymru o fis Hydref tan Rhagfry 2017.
- Roedd 34 o gyfranogwyr gyda chynrychiolwyr o 18 o sefydliadau treftadaeth. Mae hyn yn debyg i nifer y grwpiau oedd wedi mynegi diddordeb yn yr hyfforddiant yn yr holiadur gwreiddiol.
- Aeth rhai cyfranogwyr i un digwyddiad hyfforddiant; aeth un person i 5 o wahanol ddigwyddiadau hyfforddi.
- Y digwyddiad mwyaf poblogaidd oedd yr hyfforddiant Archifo Digidol, gyda 15 cyfranogwr yn cynrychioli 12 o sefydliadau. (Yr hyfforddiant hwn oedd fwyaf poblogaidd yn yr holiadur gwreiddiol a anfonwyd at aelodau).
- Roedd niferoedd wedi'u cyfyngu mewn rhai digwyddiadau hyfforddi, oherwydd natur yr hyfforddiant. Ar y cyfan, roedd modd rhagweld y niferoedd oedd yn bresennol ym mhob digwyddiad hyfforddi.
- Roedd y lleoliadau o fewn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam, ac roedd y cyfranogwyr yn gysylltiedig â grwpiau o fewn yr ardaloedd hyn.
- Bu'r adborth yn dda ac mae diddordeb mewn rhagor o ddigwyddiadau hyfforddi.
Gweithdai
- Cyflwyniad i Hanes Llafar
- Adrodd Storïau Digidol
- Defnyddio dulliau digidol o ddehongli treftadaeth.
- Archifo Digidol
- Olion Troed Digidol
- Golygu Ffotograffau
Gwersi wedi'u Dysgu -
Y rhai oedd yn bresennol - amgueddfeydd; cymdeithasau dinesig; cymdeithasau hanesyddol; cymdeithas archaeolegol; unigolion; clybiau; y trydydd sector.
- Dysgu am yr offer/ymarfer defnyddio offer
- Dysgu pa gwestiynau i'w gofyn
- Gwrando ar enghreifftiau o recordiadau o hanes llafar
- Ymarfer defnyddio offer
- Golygu a rhoi popeth at ei gilydd i greu y cynnyrch terfynol
- Enghreifftiau da o beth sy'n bosib ei wneud
- Dysgu am y dechnoleg newydd sydd ar gael
- Gwybodaeth am Apiau a'r defnydd ohonynt; costau a manteision/anfanteision
- Agweddau ymarferol/defnyddio offer ac ati
- Deall mwy am ddehongli
- Gallu gofyn cwestiynau technegol
- Materion hawlfraint - clir iawn ac o gymorth
- Arddangos/dysgu mwy am Gasgliad y Werin
- Canfod gwybodaeth newydd sy'n berthnasol i weithgareddau presennol y grŵp
- Rhwydweithio gyda grwpiau eraill
- Dysgu sut i greu ôl troed digidol
- Gweld enghreifftiau o olion troed digidol mewn dull ymarferol
- Eglurhad da o sut i wneud olion troed digidol
- Sut i ddefnyddio'r meddalwedd photoshop
- Edrych ar yr amrywiol ffyrdd o olygu ffotograffau
- Trwsio ffotograffau
- Haenau
Mwy o wybodaeth am y prosiect:
- Enw:
- Sarah Jones
- Rhif Ffôn:
-
01490 340500
- Cyfeiriad e-bost:
- sarah.jones@cadwynclwyd.co.uk
- Email project contact