Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddyfodol buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru y tu allan i'r UE wedi cael ei ymestyn i 10 Mehefin 2020.
I gyfrannu at yr ymgynghoriad click yma.
Ar ôl eu datblygu gyda rhanddeiliaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, rydym yn ymgynghori ar gynigion sy'n nodi ein pedwar maes blaenoriaeth buddsoddi (busnesau cynhyrchiol a chystadleuol, lleihau’r ffactorau sy’n arwain at anghydraddoldebau o ran incwm, cymunedau iachach a mwy cynaliadwy a'r economi di-garbon) a datganoli cyllid a phenderfyniadau yn agosach at y bobl a ddylai elwa.
Rydym yn cynnal pedair gweminar ymgynghori. Bydd pob un yn canolbwyntio ar wahanol ranbarth yng Nghymru. Bydd Rachel Garside-Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Buddsoddi a Pholisi Rhanbarthol Llywodraeth Cymru, yn gwneud cyflwyniad ym mhob gweminar.
Yn dilyn y cyflwyniad hwnnw, bydd Prif Swyddog Rhanbarthol Llywodraeth Cymru a chynrychiolydd o Fargen Ddinesig / Twf y rhanbarth yn cyflwyno'r diweddaraf o'r rhanbarth.