- Math o ddigwyddiad:
-
Virtual event
- Dyddiad ac amser:
-
-
- Lleoliad:
-
Microsoft Teams
- E-bost:
*Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd Mark Hogarth, Cyfarwyddwr Creadigol Harris Tweed Hebrides yn ymuno â ni fel siaradwr gwadd yn y digwyddiad hwn*
Mae gan Lywodraeth Cymru, drwy Rwydwaith Gwledig Cymru, grŵp trafod cyffrous newydd am wlân a thecstilau, eu defnyddiau a’r gadwyn gyflenwi yng Nghymru a bwriedir cynnal y cyfarfod nesaf ar 24 Tachwedd, 10:00 – 12:30.
Mae rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yn flaenoriaeth graidd i Lywodraeth Cymru. Mae’r Llywodraeth wedi addo y bydd mwy o wlân o Brydain yn cael ei ystyried i inswleiddio adeiladau cyhoeddus. Dywedodd Gweinidog Materion Gwledig Cymru, Lesley Griffiths:
“Rwy’n falch o ddweud bod tîm rheoli cyfleusterau Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ystyried defnyddio gwlân yn ehangach yn ein hystâd yn y dyfodol, ar yr amod ei fod yn bodloni’r profion a’r ardystiadau cydymffurfio gofynnol.”
Nod y Grŵp Trafod yw adeiladu ar rwydweithiau presennol a chreu partneriaethau newydd i ysgogi syniadau newydd ac annog cydweithio i ddatblygu a chryfhau cadwyni cyflenwi gwlân yng Nghymru; bydd ychwanegu gwerth a lleihau gwastraff yn nodwedd allweddol.
Yn dilyn cyhoeddiad diweddar y Gweinidog ar gronfeydd Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru, bydd cyfle i geisio am gronfeydd i gefnogi eitemau cyfalaf untro drwy’r Gronfa Buddsoddi mewn Busnesau Gwledig a chronfeydd pellach i ddatblygu camau gweithredu ar y cyd i gryfhau cadwyni cyflenwi drwy’r Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio. Bydd manylion pellach am y cynlluniau hyn yn cael eu cyhoeddi maes o law.