Cerddi Cymunedol

Mae Canolfan S4C Yr Egin yn falch iawn o gyflwyno prosiect Cerddi Cymunedol. Yn ystod y clo mawr, roedd unigrwydd a diffyg cyfathrebu teimladau i weld yn glir iawn ar draws y wlad ac felly‘n ymateb i hynny penderfynwyd cynnig sesiynau creadigol ar y cyd â Mentrau Iaith Sir Gâr. Bwriad y sesiynau oedd cynnig lle diogel i siarad, i greu, I ddatglybu sgiliau ac i fwynhau yng nghwmni ein gilydd fel cymuned â chwmni beirdd proffesiynol.

Mae’r prosiect yn cynnwys pedair cerdd gymunedol sydd wedi eu creu gan bobol ar lawr gwlad, ar y themâu o bwys iddynt hwy - eu cynefin, eu teimladau a bywyd yn ystod y clo mawr.

Y tair Menter Iaith oedd ynghlwm â’r gwaith yma oedd Menter Gorllewin Sir Gâr, Menter Bro Dinefwr, a Menter Cwm Gwendraeth Elli, ynghyd a chwmni theatr i bobol ifanc ‘Mess up the Mess.

Rhoddwyd cyfle i 35 o unigolion i gymryd rhan dros 11 o sesiynau yng nghwmni beirdd proffesiynol a beirdd ar eu pryfiant. Bu Aneirin Karadog yn cydweithio yn agos iawn gyda grŵp o ddysgwyr hwyliog o Fenter Cwm Gwendraeth Elli, Tudur Dylan yn cydweithio â chriw cymunedol Menter Gorllewin Sir Gar, a rhoddwyd y cyfle arbennig i fardd ifanc lleol Megan Davies i greu yng nghwmni cymunedau Menter Bro Dinefwr a phobol ifanc cwmni theatr ‘Mess up the Mess.’

Dywedodd Aneirin Karadog:

“Roedd cael cyfle i ymgysylltu gyda phobol yn eu cartrefi (er taw o bell, dros y we, roedd hynny) yn amhirsiadwy, o ran gweld ymdrechion pobol i ddysgu Cymraeg a dod i nabod mwy o bobol hyfryd Cymru. Roedd y cyfle i farddoni ar ben hynny yn un arbennig gan t eimladau dyfnion wedi bod yn cronni gan bobol yn sgil eu profiadau dros y saith mis diwethaf ac mae barddoniaeth yn ffordd berffaith i fynegi’r teimladau a phrofiadau hynny.”

Roedd y sesiynau ar lein i greu'r gerdd yn gyfle i roi rhyddid i bobol fod yn agored am eu profiadau ac agor y drws ar eu creadigrwydd yn ystod y clo mawr, yn gyfle i ddysgu sgiliau barddoni a iaith.

“Gan fy mod yn weddol newydd i'r swydd Ymgysylltu yng Nghanolfan S4C Yr Egin, roeddwn yn awyd dus iawn i ddod i adnabod aelodau o’r gymuned yma yn Sir Gaerfyrddin. Er i’r Clo mawr ein stopio i wneud hyn wyneb i wyneb neu i mi ymweld â’r cymunedau yn bersonol, cefais modd i fyw yn gwrando, trafod a sgwrsio â’r unigolion yn wythnosol, a braf iawn oedd clywed pobol yn cefnogi ei gilydd yn ystod amser anodd. Roedd yn bleser cael cydw eithio â’r Mentrau Iaith ar y gwaith yma wrth i ni sicrhau bod trigolion Sir Gâr i gyd yn buddio o ddatblygiad Canolfan S4C Yr Egin. Gobeithio yn arw y bydd modd dod ynghyd eto i greu, a phwy a ŵyr ella y bydd modd neud hyn wyneb yn wyneb yn fuan.” meddai Llinos Jones, Swyddog P rosiect Ymgysylltu Canolfan S4C Yr Egin."

Ar y 12fed o Dachwedd, bydd noson ar lein i ddathlu, cymdeithasu ac i glywed yr holl gerddi sydd wedi ei chreu gan y cyfranogwyr, ai rhoi mewn ffilm grefftus gan Nia Ann Jones. Bydd y gwaith yn cael ei ryddhau i'r cyhoedd fwynhau ar sianel YouTube a Chyfryngau Cymdeithasol Yr Egin ar y 13eg o Dachwedd.

Am ragor o wybodaeth am y prosiect neu i drafod prosiectau a chyfleodd arall sydd ar y gweill gyda’r Egin cysylltwch â Llinos Jones llinos@yregin.cymru / helo@yregin.cymru

Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru. Rhaglen datblygu Gw ledig Cymru 2014 - 2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Mae’r Egin yn ganolfan fywiog a byrlymus sy’n gartref i bencadlys S4C yn ogystal â nifer o gwmnïau a sefydliadau sy’n gweithio o fewn y diwydiannau creadigol a digidol. Mae’r ganolfan, sydd wedi’i lleo li ar gampws Prifysgol Cymru

Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, hefyd wrth wraidd y gymuned gyfan gan roi cyfleoedd i bobl leol fwynhau'r ganolfan a’i holl adnoddau.

Dyma ganolfan sy’n dod â’r diwydiannau creadigol a chynnwys digidol at ei gilydd i danio syniadau a chysylltiadau wrth feithrin doniau a rhannu adnoddau o dan yr un to.