Mae angen ffordd ddiduedd ar fridwyr defaid i ddod o hyd i hyrddod a mamogiaid yn y ddiadell sydd â'r potensial gorau ar gyfer bridio; bydd lansiad y llyfryn newydd yn gymorth i ffermwyr wrth iddyn nhw symud tuag at fesur a rhoi hwb i berfformiad y diadelloedd pedigri.

Yn ddiweddar, cafodd ‘Cofnodi perfformiad y ddiadell bedigri’ ei lanso gan Hybu Cig Cymru (HCC) fel rhan o’r Cynllun Hyrddod Mynydd, sef prosiect i gyflwyno’r dechnoleg ddiweddaraf i ddiadelloedd mynydd yng Nghymru er mwyn cryfhau’r sector defaid trwy wella geneteg yn yr hirdymor.

Mae'r llyfryn yn rhoi cyngor ar sut i lunio a defnyddio data ar 'ystadegau hanfodol' defaid fel cyfraddau twf ŵyn a nodweddion mamol y mamogiaid, yn ogystal â dyfnder cyhyrau a chynnwys braster - sy'n fesurau pwysig wrth gynhyrchu ŵyn sy'n cwrdd â gofynion y defnyddiwr ac yn gwella perfformiad ariannol y fferm.

Un ffermwr a welodd welliant o ganlyniad i gofnodi perfformiad yw Dyfed Davies o Eisteddfa Fawr yn Sir Benfro, lle mae ef a’i deulu’n cadw diadell o famogiaid Mynydd Cymru Tregaron ar fynyddoedd y Preselau. Ymunodd â’r Cynllun Hyrddod Mynydd yn  2019.

Dyfed Davies, Eisteddfa Fawr, Pembrokeshire

Dywedodd Dyfed: “Y rhwystr mwyaf o ran dechrau cofnodi perfformiad ein diadell oedd y gwaith ychwanegol yn ystod y cyfnod wyna. Diolch i'r dechnoleg TSU a gynigir gan y Cynllun Hyrddod Mynydd, bu modd i ni gofnodi perfformiad y ddiadell oherwydd mae’r dechnoleg yn golygu y gall y mamogiaid ddal i wyna ar y mynydd yn eu cynefin naturiol heb ormod o fugeilio." 

“Rydyn ni’n canolbwyntio ar rinweddau mamol y mamogiaid a phwysau’r ŵyn yn 8 wythnos oed er mwyn ceisio cynhyrchu anifeiliaid amnewid sydd yn galed ac effeithlon ac sy’n cynhyrchu ŵyn trymach i’w gwerthu.”

Sean Jeffreys

Dywedodd Sean Jeffreys, Swyddog Rhaglen HCC sy’n gweithio ar y Cynllun Hyrddod Mynydd: “Rydym yn gobeithio y bydd y llyfryn hwn yn darparu’r wybodaeth sydd ei hangen ar ffermwyr i gofnodi perfformiad eu diadelloedd." 

“Profwyd bod cofnodi perfformiad yn ffordd werthfawr o wella cynhyrchedd mewn amryw o systemau bridio defaid. Mae’r datblygiadau technolegol a gafwyd yn ddiweddar – ac a welwyd yn y Cynllun Hyrddod Mynydd – wedi ei gwneud yn haws i bob ffermwr defaid gofnodi perfformiad.”

Mae modd cael hyd i’r llyfryn dwyieithog ar wefan HCC yma.

Mae’r Cynllun Hyrddod Mynydd  yn un o dri phrosiect pum-mlynedd  yn y Rhaglen Datblygu Cig Coch sy’n cael ei hariannu gan Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig  2014-2020, ag arian gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.