Mae disgyblion ysgol gynradd Llandeilo Ferwallt a'r gymuned leol am annog dysgu yn yr awyr agored. Y cynllun yw creu ardal natur y gellir ei ddefnyddio bob dydd fel ardal weithio i blant.
Mae plant yn treulio mwy o amser dan do pan fyddant gartref yn fwy a mwy: yn gwylio llawer iawn o sianeli teledu, yn chwarae gemau cyfrifiadur, ar eu ffonau etc. Mae hyn yn rhannol oherwydd bod rhieni'n bryderus am adael i blant chwarae tu fas yn annibynnol.
Mae Ysgol Gynradd Llandeilo Ferwallt yn teimlo bod rhwymedigaeth foesol i unioni'r fantol a sicrhau bod plant yn dod i gysylltiad â'r awyr agored.
Mae gan yr ysgol ddigon o le tu fas, ond teimlir bod angen iddi wneud y lle hwn yn fwy pwrpasol. Bydd gan ardal y dewiswyd i'w datblygu gysgod, storfa a chelfi fel y gall disgyblion weithio yno.
Mae'r ysgol, gan gynnwys y llywodraethwyr, y rhieni a'r staff yn cytuno â'r nod i wneud Llandeilo Ferwallt yn lle sy'n ffyniannus, lle caiff ein hamgylchedd naturiol ei werthfawrogi a'i gynnal a lle gall pob person gael y dechrau gorau mewn bywyd a chael pob cyfle i fod yn iach, yn hapus, yn ddiogel a'r gorau y gallant fod. Yr ysgol yw'r dechrau ar gyfer y plant ifanc hyn. Gweledigaeth yr ysgol yw "rydym yn gofalu am ein gilydd a byddwn y gorau y gallwn fod"
Mae'r ysgol wedi cael effaith enfawr ar y gymuned, gan helpu i osod y naws yn y gymuned. Er bod hwn yn brosiect bach, mae'r ysgol yn bwriadu cyfrannau at nodau CDLl Abertawe drwy wella iechyd, cynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth; lleihau eu hôl troed carbon; ac, yn hanfodol, wella gwybodaeth a dealltwriaeth o'n hamgylchedd lleol.
Mae'r prosiect yn edrych ar y tymor hir yn ogystal â chanolbwyntio ar nawr. Dim ond trwy ddatblygu a meithrin mewn plant gariad at yr awyr agored, natur a'r amgylchedd y gallwn gael effaith barhaol ar ôl troed carbon yr ardal, neu ddiogelu'r adnodau naturiol a'r fioamrywiaeth sydd yno nawr.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£4,955
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Abertawe
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 1
- Mesur:
-
19.2
- Nature Area for Outdoor Learning
Cyswllt:
- Enw:
- Vicki Thomson
- Rhif Ffôn:
-
01792 636992
- Cyfeiriad e-bost:
- vicki.thomson@swansea.gov.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts