Mae rhaglen Mega-ddalgylch Bannau Brycheiniog (BBMC) yn gweithio’n rhagweithiol ac ar raddfa tirwedd ledled ein dalgylchoedd dŵr er mwyn ceisio deall, lleihau ac osgoi problemau ansawdd dŵr yn eu ffynhonnell. Y glanaf a’r mwyaf dibynadwy yw’r dŵr yn yr amgylchedd, y lleiaf o gemegau ac ynni sydd eu hangen er mwyn cynhyrchu dŵr yfed maethlon. Bydd llawer o’r camau fydd yn cael eu defnyddio i wella ansawdd y dŵr hefyd yn darparu nifer o fanteision eraill fel amaethyddiaeth gynaliadwy, adferiad natur, gwelliant tirwedd a llesiant cymunedol.
Un o’r mentrau a ddaw yn sgil y dull hwn o weithio yw Prosiect Tirwedd a Chymuned Taf Fechan sydd yn canolbwyntio ar dalgylch cronfa ddŵr Pontsticill. Mae’r dalgylch yn ardal 1628 hectar (16.28Km²) ac yn darparu cyflenwad dŵr preifat a chyhoeddus i dros 162,000 eiddo. Fodd bynnag, mae’n cael ei ddosbarthu fel Parth Diogelu dŵr. Mae ansawdd y dŵr yn yr ardal mewn perygl o waethygu a bydd hyn yn ffocws rheolaeth ac ymgysytllltiad rhagweithiol er mwyn diogelu a gwella cyflenwadau dŵr. Mae problemau dŵr cyfredol yn cynnwys algae, maethynnau ychwanegol a phresenoldeb cyfansoddion sy’n ffurfio blas ac arogl. Er nad ydynt yn peryglu iechyd, gallant roi blas llwydaidd i’r dŵr a’i wneud yn anerbyniol i’r cwsmer.
Bydd swyddog y prosiect yn gweithio â Chymuned Pontsticill ac yn ymgysylltu â phreswylwyr sydd â chyflenwadau dŵr preifat, systemau septig a thanciau storio olew yn y dalgylch gan ddarparu arweiniad ar ddynodi problemau a gwaith cynnal a chadw hirdymor i osgoi niweidio’r amgylchedd.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
£47,896
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Merthyr Tudful
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 1
- Mesur:
-
19.2
- Taf Fechan Landscape & Community Project with Welsh Water
Cyswllt:
- Enw:
- Harri Evans
- Rhif Ffôn:
-
01685 725463
- Cyfeiriad e-bost:
- Harri.evans@merthyr.gov.uk
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts