Logo Academi Amaeth Cyswllt Ffermio

A ydych chi'n barod am her?  Her a allai eich helpu i gyflawni eich uchelgais bersonol, creu cyfleoedd datblygiad proffesiynol newydd a rhoi'r hyder i chi anelu'n uchel, gan gredu yn eich hun a'r hyn y gallwch ei gyflawni?

“Os ydych chi'n uchelgeisiol, yn awyddus i ddatblygu mwy o graffter ym myd busnes a gwireddu eich potensial fel unigolyn, hoffem eich gweld yn ymgeisio am le ar raglen Academi Amaeth eleni,”

Meddai Einir Davies, rheolwr mentora a datblygu gyda Menter a Busnes, sy'n darparu Cyswllt Ffermio ar y cyd â Lantra Cymru ar ran Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Bydd y cyfnod ymgeisio am le yn Academi Amaeth eleni yn agor ar ddydd Llun, 7 Mehefin ac yn cau ar ddydd Mercher, 30 Mehefin.

Gyda dwy raglen ar wahân, nod y rhaglen Busnes ac Arloesi yw cynorthwyo ac ysbrydoli cenhedlaeth nesaf yr arloeswyr ym myd amaeth a choedwigaeth a meithrin entrepreneuriaeth, a bydd y rhaglen Iau, sef rhaglen ar y cyd â mudiad CFfI Cymru, yn cynorthwyo pobl ifanc (16-19 oed) sy’n gobeithio dilyn gyrfa yn y diwydiant bwyd, ffermio neu reoli tir.

“I nifer o’r 260 o unigolion sydd wedi bod yn rhan o’r rhaglen Academi Amaeth dros yr wyth mlynedd ddiwethaf, ac sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yng Nghymru wledig, mae’r profiad wedi newid eu bywydau.

“Mae fformwla unigryw yr Academi o ddarparu gwasanaeth mentora, hyfforddiant, ymweliadau astudio a rhwydweithio, sy'n canolbwyntio ar dri chyfnod astudio byr ond dwys, wedi rhoi sgiliau newydd iddynt, cysylltiadau a ffrindiau newydd, ymdeimlad newydd o hyder ac i nifer, ychwanegiad pwysig iawn i'w cv,”

Meddai Ms Davies.

Oherwydd Covid-19, sydd wedi effeithio ar drefnu ymweliadau astudio i wledydd tramor ymlaen llaw, bydd ymgeiswyr yr Academi eleni yn cyfuno sesiynau 'cyfarfod a chyfarch' ar-lein a gweminarau ar gyfer sectorau penodol gydag ymweliadau â gwahanol rannau o'r DU, ond mae Ms Davies yn dweud bod hyn yn cynnig ei fanteision ei hun. 

“Pan oedd y pandemig ar ei anterth yn ystod yr haf y llynedd, roedd hi'n amlwg bod cynulleidfa barod o unigolion ar gael sydd wrth eu bodd yn cael y cyfle i ymuno â gweminarau ar-lein, ac mae hyn, wrth gwrs, yn golygu y gallwn ehangu'r dewis o ran ein siaradwyr a'n mentoriaid, gan gynnwys arbenigwyr o bron i unrhyw fan yn y byd gyda chyswllt â'r rhyngrwyd.

“Felly, ni fydd unrhyw deithiau darganfod ffeithiau i Ewrop eleni, ond bydd arlwy o siaradwyr a fydd yn gallu eich tywys ymhellach,”

Meddai Ms Davies. 

Bydd yr holl drefniadau ar gyfer rhaglen eleni yn cydymffurfio ag unrhyw gyfyngiadau teithio a chadw pellter cymdeithasol y gallent fod mewn grym oherwydd Covid-19.

Am agor o fanylion ynglŷn â rhaglen yr Academi Amaeth 2021 ac i lawr lwytho ffurflen gais, ewch i Cyswllt Ffermio.