Deilliodd y syniad hwn o beilot unigryw sinema dros dro a gynhaliwyd yn Theatr Fach Llangefni ym mis Awst 2017. Cynhaliwyd y sinema dros ddeuddydd a dangoswyd 3 ffilm oedd yn boblogaidd iawn. Roedd yr adborth yn amlwg wedi dangos marchnad benodol ar gyfer sinema gymunedol symudol.
Mae'r peilot am adeiladu ar y profiad hwnnw a gwneud fel a ddisgrifiwyd yn y crynodeb o'r prosiect agoriadol. Y bwriad yw darparu profiad sinema o ansawdd uchel sy'n hygyrch i bawb ac felly ennyn brwdfrydedd ac ysbrydoli cymunedau. Bydd y peilot yn sefydlu'r ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol o ddarparu gwasanaeth symudol i gymunedau a datblygu'r defnydd o'r cysyniad dros dro ledled Ynys Môn, gan gynnwys gwirfoddolwyr cymunedol, yn y broses o sefydlu a threfnu eu digwyddiadau sinema o ran strategaeth brisio, pennu pa ffilmiau a ddangosir, pa mor aml y dangosir hwy ac wrth greu profiad cymdeithasol ar gyfer pob digwyddiad. I ddechrau, bydd gwirfoddolwyr craidd y gwasanaeth symudol peilot yn gwybod sut i sefydlu a threfnu’r sinema dros dro ond bydd yn sefydlu'r potensial i drosglwyddo'r wybodaeth a'r sgil hon i grwpiau cymunedol er mwyn galluogi ystyried hybiau lleol ledled Môn a datblygu isadeiledd cynaliadwy i'r dyfodol.
Manylion y prosiect
- Swm cyllido:
-
EAFRD (WG RC_RDP Wales) contribution£18,000.00
- Ffynhonnell cyllid:
-
Cronfa datblygu lleol LEADER
- Ardal:
-
Ynys Môn
- Cwblhau:
-
- Thema:
- 1
- Mesur:
-
19.2
Cyswllt:
- Enw:
- Jackie Lewis
- Cyfeiriad e-bost:
- jackie@mentermon.com
- Email project contact
Project Area Contacts:
Need to find a local access group or lead body for an area?
Please have a look at our project contact map.
Find area contacts